Posteri'r Sesiwn Fawr
- Cyhoeddwyd
Cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau, dolen allanol ei chynnal am y tro cyntaf yn 1992. Ers hynny mae 20 gŵyl wedi bod, gyda seibiant yn 2009 a 2010, a 'RiSesiwn' yn 2012.
Ar benwythnos 17-19 Gorffennaf eleni bydd yr ŵyl unwaith eto'n cael ei chynnal yn Nolgellau.
Mae enwogion o Gymru a thu hwnt wedi heidio i'r llwyfan ar Sgwâr Eldon ac, yn ddiweddarach, i'r llwyfan ar faes parcio Y Marian ger yr Afon Wnion.
Dyma gasgliad o bosteri'r ŵyl dros y blynyddoedd: