Bywyd newydd i gapel hanesyddol
- Cyhoeddwyd
Mae'r darlledwr Huw Edwards yn arwain seremoni 'dychwelyd yr allwedd' i gymuned Yr Hen Gapel, Llwynrhydowen yng Ngheredigon nos Wener.
Mae'r capel yn ail-agor fel canolfan ar gyfer gweithgareddau lleol.
Mae Addoldai Cymru, ymddiriedolaeth sy'n gwarchod adeiladau crefyddol, hefyd wedi bod yn datblygu adnoddau digidol er mwyn i Gymru gyfan ddysgu am hanes y capel.
Mae'r prosiect wedi golygu gwario £267,000 ar waith atgyweirio i'r capel ger Llandysul.
Yn ystod y seremoni mi fydd Mr Edwards, noddwr Addoldai Cymru, yn dychwelyd allwedd y capel i'r gweinidog Wyn Thomas.
Bydd y seremoni yn adlewyrchu digwyddiadau bron i 150 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y capel undodaidd yn y penawdau newyddion.
'Y Troad Allan'
Yr Hen Gapel oedd Mam eglwys 'smotyn du' yr Undodiaid yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin, cadarnle traddodiad radicalaidd gafodd ei enw drwy wrthsefyll ton ar ôl ton o ddiwygiadau efengylaidd yng Nghymru.
Ym 1876, dyma leoliad sgandal cenedlaethol, pan daflwyd y gynulleidfa a'i gweinidog William Thomas (oedd yn cael ei adnabod fel Gwilym Marles) allan o'r capel gan y tirfeddiannwr, John Lloyd o Alltyrodyn.
Roedd Gwilym Marles yn rhyddfrydwr cryf oedd wedi codi gwrychyn y tirfeddiannwr lleol drwy rannu ei neges wleidyddol yn gyhoeddus.
Credai yn y gryf yn yr achos am bleidlais gudd, a chynyddodd ei frwdfrydedd ar ôl i'r ddeddf gael ei phasio ym 1872.
Ym mis Hydref 1876 mi benderfynodd y tirfeddiannwr fod eu ideoleg Undodaidd "radicalaidd" yn torri amodau eu prydles, a bod y capel wedi ei adeiladu "i addoli Duw ac am ddim pwrpas arall o gwbwl".
Yn sgil hyn, y dydd Sul canlynol, mi anerchodd y gweinidog dorf o thua 3,000, o flaen giatiau caeedig y capel.
Mi ddenodd y digwyddiad ddiddordeb cenedlaethol, ac roedd 'na ymgyrch i godi arian i adeiladu capel arall.
Wedi marwolaeth sydyn John Lloyd, fe roddodd ei chwaer, allwedd y capel yn ôl i'r gynulleidfa.
Erbyn i'r capel newydd agor, roedd y gweinidog Gwilym Marles yn wael, a bu farw cyn gallu mynychu'r seremoni agoriadol. Claddwyd Marles yn y capel newydd a gysegrwyd er cof amdano.
Y Bleidlais Gudd
Mae nifer yn credu mai ymgyrchu pobl fel Gwilym Marles arweiniodd at gyflwyno'r bleidlais gudd.
Dywedodd y Parchedig Wyn Thomas fod pobl yn falch o'r hanes "sydd gyda ni o frwydro dros hawliau a dros gyfiawnder, yn arbennig, cyfiawnder sifil, a gwleidyddiaeth.
"Ac rydym ni'n falch iawn o'r ffaith bod hanes Llwynrhydowen, yn uniongyrchol, wedi arwain at y bleidlais ddirgel.
"A'r system honno o bleidleisio rydym ni'n ei gymryd mor ganiataol heddiw yn dod o bethau fel digwyddodd yma yn Llwyn".
Hen ewythr Dylan Thomas
Mae Gwilym Marles yn hen ewythr i'r bardd Dylan Thomas ac enw canol y bardd oedd Marles.
Mae rhai yn credu mai'r gweinidog oedd ysbrydoliaeth y cymeriad y Parchedig Eli Jenkins yn Dan y Wenallt.
Mi fydd Heini Thomas yn darllen yn y seremoni nos Wener, ac mae ganddi hi gysylltiad teuluol a'r Hen Gapel.
"Roedd teulu fy hen hen dad-cu, Watcyn Davies yn aelodau o'r hen gapel yn ystod cyfnod Y Troad Allan.
"Hefyd, Watcyn Davies oedd saer coed Plas Alltyrodyn, ac efe oedd pensaer ac adeiladwr y capel 'newydd' ym Mhontsian.
"Mi gafodd y dasg o gau'r gynulleidfa allan gan John Lloyd, Alltyrodyn, oedd yn brofiad anodd iddo.
"Ond mi adawodd un o'r ffenestri ar agor er mwyn i rai o'r aelodau sleifio i mewn liw nos i nôl llyfrau o'r capel.
"Rydw i'n gyfarwydd iawn â'r hanes, oherwydd os oedd un stori roedd fy nhad wedi trwytho ynddi, hanes Y Troad Allan oedd honno!
"Felly rwy'n teimlo'n falch iawn fod pobl tu allan i'r enwad a'r ardal yn cael y cyfle i glywed yr hanes drwy'r agoriad swyddogol.
"Rwy'n teimlo'n emosiynol iawn hefyd, oherwydd bu farw fy nhad ar yr 11eg o Ragfyr llynedd, ac mi fydda'i wedi bod ar ben ei ddigon cael bod yma."
Mae Addoldai Cymru wedi derbyn cyllid ar gyfer adfer yr Hen Gapel gan £65,650 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, £50,000 gan Cadw, £25,000 gan Gyngor Sir Ceredigion, £10,000 gan Gyngor Cymuned Llandysul a mwy na £2,800 gan bobl leol trwy apel.
Derbyniodd yr ymddiriedolaeth gyllid hefyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (£18,607) a Croeso Cymru (£85,607) ar gyfer yr adnoddau digidol cafodd eu creu mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.