Cynllun dirwy £10 am golli apwyntiadau Gwasanaeth Iechyd
- Cyhoeddwyd
Fe allai cleifion sy'n colli apwyntiadau mewn ysbytai gael dirwy o £10, os yw'r Ceidwadwyr yn ennill etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod 1.2m o apwyntiadau wedi eu methu yn ysbytai Cymru yn unig dros y tair blynedd diwethaf.
Mae'r blaid yn dweud bod hynny yn gwastraffu amser ac yn costio tua £60m y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai gweithredu dirwy o'r fath yn anodd, ac mae sefydliadau iechyd wedi beirniadu'r cynllun.
Cynllun peilot
Nid yw'r ffigyrau yn cynnwys apwyntiadau meddyg teulu gafodd eu colli, ond daeth ymchwiliad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad i'r canlyniad bod cleifion yn methu a mynd i un ymhob 10 o apwyntiadau meddyg teulu - hyd at 600,000 y flwyddyn.
Mae amcangyfrif bod apwyntiadau ysbyty sy'n cael eu colli wedi costio £180m i'r Gwasanaeth Iechyd ers 2012/13.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n cyflwyno cynllun peilot - fyddai'n dirwyo cleifion sy'n methu apwyntiadau'r GIG ychydig o'r gost o'r adnoddau gafodd eu gwastraffu.
Roedd y nifer uchaf o apwyntiadau gafodd eu colli yn ardal Caerdydd a'r Fro, lle roedd bron 100,000 y flwyddyn diwethaf.
Mae ymchwil gan raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru hefyd yn awgrymu bod cynnydd sylweddol yn nifer yr apwyntiadau plant gafodd eu colli dros y ddwy flynedd diwethaf - roedd cynnydd o draean ym myrddau iechyd Powys ac Abertawe Bro Morgannwg.
Daeth pôl o'r Gwasanaeth Iechyd gan ICM Research a BBC Cymru eleni i'r canlyniad bod 81% o bobl yn cefnogi'r syniad o ddirwy i'r rhai sy'n colli apwyntiadau meddyg teulu neu ysbyty.
Dadansoddiad Owain Clarke, Gohebydd Iechyd
O golli apwyntiadau mae 'na gost i'r gwasanaeth iechyd, £60m y flwyddyn yn ôl y Ceidwadwyr sy'n cael ei wastraffu.
Ac o ganlyniad mae'r blaid yn dadlau mai digon yw digon - felly maen nhw am gyflwyno dirwy o £10 i'r rhai sy'n methu apwyntiadau yn gyson.
Y ddadl yw mai'r ffordd orau o newid ymddygiad anghyfrifol yw drwy gosbi'r rhai sy'n gyfrifol yn ariannol.
Mae sefydliadau iechyd yn cydnabod fod methu apwyntiadau yn broblem fawr - yn enwedig ar adeg pan fo rhestrau aros yn ymestyn a nifer yn cael trafferth trefnu apwyntiad cyfleus gyda'i meddyg teulu.
Ond maen nhw'n gwrthwynebu'n chwyrn y syniad o gyflwyno dirwy gan ddadlau y byddai hynny yn targedu'r cleifion mwy bregus - er enghraifft cleifion oedrannus, y digartref neu unigolion ag anawsterau dysgu.
Yn aml, y math o gleifion sydd a'r angen mwyaf am ofal.
Methu mynd i'r afael
Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Millar, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu a mynd i'r afael a'r broblem o golli apwyntiadau.
"Mae gyda ni'r hawl i ddefnyddio'r GIG ond mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd gyfrifol," meddai.
"Tra bod rhai sy'n methu apwyntiadau yn gwneud hynny am resymau sydd allan o'u rheolaeth, y realiti yw bod llawer ddim."
Yn ogystal â gwastraffu amser ac arian, dywedodd y gall gael effaith niweidiol i rai sydd ddim yn mynd i apwyntiadau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, bod y cynllun yn ddeniadol wrth edrych yn arwynebol:
"Syth chi'n meddwl am y manylion, mae'r syniad yn diflannu fel syniad sy'n gallu gweithio," meddai.
"Ydyn ni'n siarad am blant? Ydyn ni'n siarad am bobl hyn gyda problemau? Pobl bregus? Ydyn ni'n siarad am bobl gydag anawsterau dysgu?
"Os ddim, dwi'n gweld yn syth, dyma syniad sy'n mynd i fod yn gymhleth dros ben i redeg."
'Difrodi' perthynas gydol oes
Dywedodd Dr David Bailey, dirprwy gadeirydd pwyllgor Cymreig y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA): "Mae'r berthynas rhwng meddyg teulu a chlaf yn un gydol oes - ac nid difrodi hynny gyda chostau bach yw'r ffordd gywir ymlaen.
"Pan rydych chi am i rywun fod yn adfocad ac ymddiried ynddo chi - y peth olaf rydych chi eisiau yw i'r person yna godi tal o ddegpunt."
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn dweud eu bod yn gwrthwynebu'r cynllun o godi tal am apwyntiadau, dan unrhyw amgylchiadau.
"Byddai codi tal am apwyntiadau yn newid un o sylfeini meddygaeth teulu - bod gofal iechyd yn rhad ac am ddim pan fod ei angen," meddai llefarydd.
"Gall apwyntiadau sy'n cael eu colli fod yn rhwystredig ond mewn nifer o achosion mae rhesymau dilys gan gleifion am fethu a mynychu - ac fe alle nhw fod yn rhybuddion bod rhywbeth mwy difrifol o'i le."