Ble ma' Meifod?
- Cyhoeddwyd
Dyma fap o ardal yr Eisteddfod ym Meifod eleni yn dangos lleoliadau pwysig yr ŵyl gyda gwybodaeth isod am sut i gyrraedd y Maes.
Cyfeiriad y Maes yw Fferm Mathrafal, Meifod, Powys. SY22 6HT.
Ewch i wefan dywydd BBC Cymru i weld rhagolygon y tywydd ar gyfer Meifod.
Gwyliwch ein clip fideo arbennig i gael mwy o wybodaeth teithio.
Directions, site map and weather for Meifod in English.
Sut i gyrraedd y Maes
Eleni, mae Maes B, y Maes Carafanau a Gwersylla a'r Meysydd Parcio i gyd yn gyfagos i Faes yr Eisteddfod.
Wrth deithio o'r gogledd ddwyrain, dilynwch yr A5 i Groesoswallt ac yna'r A483. Wrth gyrraedd Llynclys trowch i'r dde ar yr A495. Dilynwch yr arwyddion melyn EISTEDDFOD wrth y cyffordd at y Maes
Wrth deithio o'r gogledd orllewin, dilynwch y A470 hyd at gylchfan Brigands Inn ger Dinas Mawddwy ac yna'r A458. Trowch i'r chwith yn Neuadd Bridge ar yr A495. Dilynwch yr arwyddion melyn EISTEDDFOD wrth y cyffordd at y Maes
Wrth deithio o'r gorllewin, dilynwch yr A489 i Lantwymyn. Trowch i'r chwith i'r A470. Dilynwch yr A470 hyd at gylchfan Brigands Inn ger Dinas Mawddwy ac yna'r A458. Trowch i'r chwith yn Neuadd Bridge ar yr A495. Dilynwch yr arwyddion melyn EISTEDDFOD at y Maes.
Wrth deithio o'r de, dilynwch yr A470 i Gaersws ac yna i'r A483 i'r Trallwng ac yna i'r A458. Yn Heniarth, trowch i'r dde ar y B4389. Dilynwch yr arwyddion melyn EISTEDDFOD at y Maes
Dilynwch yr arwyddion i'r meysydd parcio ond os gwelwch yn dda peidiwch â pharcio wrth ochr y lôn. Dylai ymwelwyr anabl gyda bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i'r maes parcio anabl.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Y Trallwng yw'r orsaf agosaf os yn teithio ar drên i'r Eisteddfod. Bydd bysiau arbennig yn rhedeg o'r orsaf i'r Maes. Ni fydd hwn yn wasanaeth am ddim, mi fydd angen talu. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol., dolen allanol