Ymgyrch Jasmine: Adroddiad yn nodi nifer o fethiannau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol i ddigwyddiadau mewn cartrefi gofal yn ne ddwyrain Cymru, yn sgil ymchwiliad Ymgyrch Jasmine.
Mae'r adolygiad gan Dr Margaret Flynn yn nodi "cyfres o fethiannau", ac yn gwneud 12 o argymhellion, gan gynnwys sicrhau fod y sector cartrefi gofal a phreswyl yn dod yn "flaenoriaeth genedlaethol" yng Nghymru.
Cafodd yr adolygiad ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ar ôl i ymchwiliad yr heddluoedd ddod i ben heb i unrhyw un gael eu herlyn.
Wrth gyhoeddi'r adolygiad, dolen allanol, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Er bod yr adroddiad yn cydnabod y datblygiadau dros y degawd diwethaf, mae hefyd yn amlinellu nifer o gamau gweithredu i'w hystyried gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru."
Dywed Dr Flynn nad oedd y rhai oedd yn gofalu am bobl oedrannus yn ddigon ymwybodol o'u hanghenion.
Ymgyrch Jasmine oedd enw ymchwiliad Heddlu Gwent i'r esgeulustod honedig mewn chwech o gartrefi gofal ar draws de Cymru rhwng 2005 a 2009.
Ar gost o £11.6 miliwn, dyma'r ymchwiliad mwyaf erioed i gam-drin honedig mewn cartrefi gofal, ac roedd dros 100 o deuluoedd wedi cwyno.
Yn 2013 daeth yr achos i ben yn erbyn Dr Prana Das, un o berchnogion rhai o'r cartrefi, ar ôl lladrad yn ei gartref, wnaeth ei adael gyda niwed i'w ymennydd.
Mae Dr Flynn hefyd yn dweud "y gallai ac y dylai Dr Das fod wedi cael ei erlyn".
'Newid sylfaenol'
Mae un arbenigwr gofal cymdeithasol wedi galw am "newid sylfaenol yn y diwylliant."
Yn ôl Mario Kreft MBE, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru: "Rydym yn croesawu'r adolygiad pwysig yma, ac mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes achosion ffiaidd fel hyn yn digwydd eto.
"Mae'n rhaid i ni gydweithio mewn ffordd wahanol iawn yn y dyfodol - nid dim ond er mwyn adnabod gwasanaethau gwael, ond er mwyn gwella'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu gennym.
"Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni weithio mewn ffordd wahanol, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw yn gwbl briodol i'r angen sydd i ystyried gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol, fel mae sectorau fel rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd.
"Mae angen i ni greu hinsawdd lle mae pobl yn cymryd cyfrifoldeb, ac yn hyrwyddo tryloywder.
"Rydym wedi dod yn bell iawn, ond mae gennym ffordd hir i fynd. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cyfle hwn fel llinell goch absoliwt i wneud gwahaniaeth go iawn."
Croesawu'r adroddiad
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) hefyd wedi croesawu'r adroddiad ,gan "ddiolch" i Dr Flynn am ei gwaith.
"Byddwn yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn ofalus wrth i ni barhau i gryfhau ein dull o reoleiddio ac arolygu cartrefi gofal er mwyn lleihau'r perygl bod y digwyddiadau hyn yn digwydd eto," medd eu datganiad.
'Sylw ar frys'
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Wasanaethau Cymdeithasol Altaf Hussain AC wedi dweud fod yr adroddiad yn "tynnu sylw at gatalog o gamgymeriadau sy'n rhaid cael sylw ar frys.
"Mae pob argymhelliad yn gofyn am gamau cyflym gan nifer o sefydliadau ar draws Cymru.
"Mae cwestiynau clir am reolaeth y gwasanaethau ac mae gan weinidogion y llywodraeth ddyletswydd i sicrhau fod gwelliannau yn cael eu cyflwyno yn syth."