Sinema'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Emyr Glyn WilliamsFfynhonnell y llun, Emyr Glyn Williams

Mae hi'n gyfnod llwm yn ariannol ar y celfyddydau ond er gwaethaf hynny mae gan Emyr Glyn Williams freuddwyd o weld cenhedlaeth newydd yn mynd ati i greu ffilmiau yn y Gymraeg: "ewch amdani!" yw ei neges i gynhyrchwyr ifanc.

Mae Emyr yn adnabyddus am redeg label recordiau arloesol Ankst, dolen allanol am bron i 30 mlynedd - label a roddodd hwb enfawr i fandiau fel Gorky's Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Datblygu, ond mae hefyd yn wneuthurwr ffilm.

Mae ei lyfr newydd, Is-deitla'n Unig, dolen allanol, yn trafod ei gariad at ffilmiau tramor a'i gred mewn sicrhau bod lleisiau annibynol ar draws y byd yn cael eu clywed.

Mae'n rhannu ei weledigaeth am greu diwylliant sinematig Cymraeg gyda Chymru Fyw:

"Mae'n anorfod fod pob gwagle'n cael ei lenwi - dyna yw natur yn ei hanfod - ac i mi, mae gwagle'n bodoli yn y byd diwylliannol Cymraeg, sef yr awydd i freuddwydio bod diwylliant sinema yn y Gymraeg yn bosib, ac yn syml, annog y genhedlaeth nesa i fynd ati i lenwi'r gofod yna yw pwrpas y llyfr.

"Yn y gorffennol, mi brofais i gyfnod efo Ankst pan welwyd cerddoriaeth Cymraeg yn rhagori ac yn arwain y byd lle unwaith doedd hi ddim i'w gweld na'i chlywed yn unrhyw le, ac i mi, does 'na ddim rheswm pam na all yr un peth ddigwydd ym myd sinema.

Iaith y ddelwedd

"Mae sinema'n trin a thrafod pethau sydd bron yn amhosib eu disgrifio mewn geiriau trwy ddefnyddio iaith y ddelwedd, a dyma'r iaith sy angen i ni ddechrau ei siarad o ddifri yma yng Nghymru.

"Mae gwir angen i ni ddechrau creu delweddau a storïau sinematig er mwyn wynebu her y dyfodol yn ogystal ag esbonio'r daith ddiweddar rydan ni wedi ei chreu gyda'n gilydd fel cymdeithas.

"Dwi'n gweld bodolaeth y llyfr fel un cam yn y broses o normaleiddio'r dyhead am ddiwylliant sinematig Cymraeg, a rhoi'r dyhead yna yn union yng nghanol yr holl ddyheadau eraill sy'n bodoli oddi mewn i'r tair miliwn o bobl sy'n byw yma.

Ffynhonnell y llun, Ankst
Disgrifiad o’r llun,

Y Lleill: un o ffilmiau Emyr Glyn Williams a enillodd wobr BAFTA Cymru 2005

"Llyfr yw hwn felly, sy'n ceisio ysgogi unigolion sy'n awyddus i greu sinema i fentro un cam yn nes at wireddu'r freuddwyd honno - yn benna'r Cymry ifanc yna sydd heb fentro creu eu diwylliant sinematig cynhenid eu hunain eto.

Ysbrydoliaeth

"Neges syml yw hi - ewch amdani! Dwi'n ymwybodol fy mod i wedi gwastraffu llwyth o amser yn disgwyl i'r diwydiant gynnig cefnogaeth i mi gynhyrchu'r delweddau yma o fewn Cymru, felly mae'r llyfr hefyd yn trio'ch annog chi i edrych allan trwy ffenest wahanol, un y ffilm dramor, a gweld yn bellach na thywyllwch a'r difaterwch sy weithiau'n teyrnasu dros y byd celfyddydol yma yng Nghymru.

"Tydi'r ffaith fod y llyfr yn manylu ar sinema dramor ddim yn rhwystr chwaith, gan fod y gred a delwedd y 'byd crwn, millitr sgwâr' yn rhan annatod o ogwydd y Gymru newydd erbyn hyn.

"Dwi eisoes yn cael fy ysbrydoli'n ddyddiol gan y genhedlaeth newydd sy'n trin a thrafod sinema ar Twitter yn y Gymraeg (yn eu plith @dylanhuw @nicodafydd @catrincooper @gregbevan @AledLlewelyn @stonecypher) ac yn chwil ar angerdd, ffraethineb ac ymrwymiad y rhain wrth iddynt drafod byd sinema.

"Yn syml, gyda ffilm neu lyfr, yr unig nod realistig yw creu rhywbeth fydd yn gwneud i'r gynulleidfa feddwl ei fod o'n rhywbeth i'w wneud efo nhw, a thrwy wneud hyn, mae siawns y bydd y llyfr / ffilm yn medru effeithio arnyn nhw, neu eu hysgwyd, hyd yn oed."

Mae Is-deitla'n Unig yn cael ei chyhoeddi gan Gwasg Gomer. Bydd y gyfrol yn cael ei hyrwyddo yn Gŵyl Arall, dolen allanol, Caernarfon, ddydd Sul, 19 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Gomer

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol