Atomfa Trawsfynydd: Trafod adweithydd niwclear newydd

  • Cyhoeddwyd
trawsfynydd

Mae arweinwyr undebau yn yr hen orsaf niwclear yn Nhrawsfynydd wedi croesawu awgrymiadau y gallai adweithydd newydd gael ei leoli ar y safle.

Mae dau adroddiad ar wahân wedi awgrymu y gallai'r safle yn Eryri fod yn safle delfrydol ar gyfer Adweithydd Modiwl Bach, neu SMR, newydd.

Mae tua 300 o weithwyr yn dal i weithio ar safle Trawsfynydd, ond gyda'r cyfnod o ddatgomisiynu yn dod i ben, bydd y rhan fwyaf o'r swyddi hynny yn diflannu dros y ddwy flynedd nesaf.

Disgrifiad,

Trafod adweithydd niwclear newydd yn Nhrawsfynydd

Dywedodd Darryl Williams o undeb Unite y dylai'r syniad o adweithydd newydd ar y safle dderbyn ystyriaeth ddifrifol.

"Byddem yn croesawu unrhyw beth fyddai'n cadw sgiliau lleol yn yr ardal," meddai Mr Williams.

Galw i fwrw ymlaen

Ar hyn o bryd nid oes adweithydd SMR yn y DU, ond mae adroddiad gan Bwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd y Tŷ'r Cyffredin, wedi galw ar lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r defnydd a datblygu'r adweithyddion hyn.

Dywed yr adroddiad fod SMR "yn gynnig ymarferol i'w ddefnyddio yn y dyfodol yn y DU yn y degawd nesaf".

Roedd y pwyllgor hefyd yn awgrymu bod manteision wrth ystyried safleoedd niwclear blaenorol, gan gynnwys Trawsfynydd, fel lleoliadau posibl.

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r safle wedi bod yn cynhyrchu ynni ers 1991

Mae adroddiad arall, gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, hefyd yn awgrymu Trawsfynydd yn benodol fel safle ar gyfer adweithydd.

"Fe ddylai Llywodraeth y DU, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gefnogi gan wneud safle niwclear trwyddedig presennol Atomfa Trawsfynydd yng ngogledd Cymru ar gael fel lleoliad ar gyfer profi adweithydd SMR," meddai'r adroddiad.

"Dylai hyn gael ei adeiladu mewn cydweithrediad â chwmnïau yn y DU a modiwlau sy'n cynnwys peiriannau a gynhyrchwyd yn y DU gan ddiwydiant niwclear y genedl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn fater i Lywodraeth y DU, ond y byddent yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Nid oedd Adran yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd ar gael i wneud sylw.