Cyngor Sir Penfro yn penodi prif weithredwr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi penodi prif weithredwr newydd yn dilyn misoedd o ansicrwydd.
Pennaeth Gweithredol Gwasanaeth Cyflogedig y cyngor, Ian Westley, sy'n cymryd lle Bryn Parry-Jones, wnaeth adael ei swydd ym mis Hydref wedi cytundeb ar gyflog diswyddo o £277,000.
Roedd hyn yn dilyn ffrae am daliadau ariannol yn lle cyfraniadau pensiwn, a dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru bod hyn yn anghyfreithlon.
Mr Parry-Jones oedd ar y cyflog mwyaf o benaethiaid cynghorau Cymru, ar gyflog o bron i £200,000 y flwyddyn. Bydd ei olynydd yn derbyn cyflog o £130,000.
Fe ddaeth i'r amlwg yn ogystal bod y cyngor wedi bod yn rhentu car Porsche ar gyfer Mr Parry-Jones am dros £2,000 y mis.
Roedd y cyn-brif weithredwr wedi defnyddio arian oedd yn weddill o'i gytundeb car blaenorol i rentu'r car.
Fe wnaeth y cyngor dalu £8,600 i ddod â chytundeb y Porsche Panamera i ben pan adawodd ei rôl.