Ymgyrch gwirfoddolwyr i achub pwll nofio Brynaman
- Cyhoeddwyd
Mae criw o wirfoddolwyr o ardal Brynaman yn cynnal gweithgaredd arbennig ddydd Sadwrn er mwyn ceisio codi arian ac ennyn diddordeb mewn ymgyrch i adfer hen bwll nofio.
Cafodd y pwll nofio neu lido ei adeiladu yn y 1920au gan ddefnyddio arian gafodd ei godi gan lowyr lleol.
Ond dros y blynyddoedd fe ddirywiodd ei gyflwr.
Yn 2010 dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin y byddai'n costio tua £20,000 i'w atgyweirio a chafodd y safle ei gau.
Mae'r pwll wedi bod dan ofal ymddiriedolaeth ers hynny ond gyda'r gatiau ar gau.
Nawr mae ymgyrchwyr lleol am ei ail agor gan ail-greu teimlad o'r 1920au.
Maen nhw wrthi yn casglu arian ac eisoes wedi llunio cynllun busnes.
Y gobaith yw y bydd yn cael ei drosglwyddo i ofal yr ymddiriedolaeth.
"Byddai'n costio llawer mwy i'w adfer nawr," meddai Phil Broadhurst un o'r ymgyrchwyr.
"Ond rydym yn benderfynol o wneud hynny a hefyd ei ddatblygu fel pwll naturiol, pwll fydd yn ecogyfeillgar."
'Atgofion melys'
Ddydd Sadwrn mae apêl ar bobl leol i ddod a hen luniau o'r pwll i gyfarfod arbennig.
"Bydd o'n fodd o hel atgofion pleserus ond hefyd yn fodd o ysgogi diddordeb y cyhoedd."
Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Y Mynydd Du, Brynaman rhwng 10:00 ac 13:00.
Un o'r rhai sy'n cefnogi'r ymgyrch yw'r canwr gwerin, Dafydd Iwan, sydd a'i wreiddiau yn yr ardal.
"Er bod lot o ddŵr wedi llifo dan Bont yr Aman ers imi fod yn y pwll, mae'r atgofion yn felys iawn am y lle," meddai.
"Ac wrth gwrs roedd yr hafau'n dwymach amser hynny!" Pob hwyl i chi ar yr ymdrech i ail-agor un o'r ychydig byllau agored sydd ar ôl", meddai.