Tafod Glas: Cyfyngiadau ar symud da byw dros y ffin i ddod i ben

DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd achosion tafod glas eu canfod yng Nghymru am y tro cyntaf eleni ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru gyfan yn dod yn "barth dan gyfyngiadau" ar gyfer clefyd y Tafod Glas o 10 Tachwedd ymlaen.

Mae'r newid yn golygu y bydd Cymru yn dilyn yr un rheolau â Lloegr, ac yn golygu na fydd cyfyngiadau o hyn ymlaen ar symud da byw dros y ffin.

Mae 11 achos o straen BTV-3 y clefyd wedi'u cadarnhau yng Nghymru hyd yma eleni - pedwar ym Mhowys, a saith yn Sir Fynwy.

Dywedodd y llywodraeth fod cael polisi gwahanol i Loegr - sydd wedi gweld llawer mwy o achosion - hyd yma wedi atal y clefyd rhag lledaenu'n eang yng Nghymru.

Ond maen nhw wedi dod i'r penderfyniad i newid y statws nawr am ei bod yn "adeg o'r flwyddyn pan na fydd yn debygol o ledaenu'n eang nac yn cael effaith fawr".

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu gan rai mathau o wybed sy'n brathu, ac yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas.

Nid yw'n effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.

Mae'r llywodraeth yn cydnabod ei bod yn "debygol y bydd nifer yr achosion o'r Tafod Glas yn cynyddu" yn sgil y newid.

Maen nhw'n dal i annog pobl i frechu eu hanifeiliaid.

Beth fydd effeithiau datgan y parth?

  • Bydd y Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) presennol yn cael ei ddileu, gyda'r nod o "symleiddio mesurau rheoli'r clefyd ledled Cymru";

  • Ni fydd cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar safleoedd unigol bellach;

  • Ni fydd anifeiliaid sydd wedi'u heintio yn cael eu difa, ac ni fydd rhagor o gyfyngiadau yn cael eu gosod oherwydd BTV-3 yng Nghymru;

  • Ni fydd gorfodaeth i frechu da byw sy'n cael eu symud rhwng Cymru a Lloegr rhag y Tafod Glas.

GwarthegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clefyd yn effeithio ar anifeiliaid fel gwartheg, geifr, defaid, ceirw, alpacas a lamas

Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies fod polisi Cymru wedi llwyddo hyd yma.

"Rwy'n sylweddoli bod y cyfyngiadau ar symud da byw a sefydlu'r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) wedi tarfu ar geidwaid da byw a'r diwydiant ehangach," meddai.

"Rwyf wedi cwrdd â'r sectorau da byw a milfeddygol yn rheolaidd, mewn cyfarfodydd ford gron, ac wedi gwrando ar eu hymateb i'r heriau y mae'r cyfyngiadau ar symud da byw rhwng Cymru a Lloegr ac effeithiau posibl y Tafod Glas ar iechyd a lles anifeiliaid, wedi'u creu.

"Yn dilyn y trafodaethau hynny, ac yn unol â'm hymrwymiad i adolygu'r sefyllfa ar sail tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, rwyf wedi ystyried ein polisi Tafod Glas yng Nghymru ar gyfer gweddill 2025 a thu hwnt.

"O gofio bod firws y Tafod Glas wedi cyrraedd Cymru, a bod data hanesyddol am y tymheredd a gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn annhebygol iawn y bydd gwybed yn lledaenu firws y Tafod Glas yng Nghymru ar ôl 10 Tachwedd, bydd y Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru'n dechrau ar y diwrnod hwnnw."

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine eu bod yn parhau i annog ceidwaid da byw "i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas".

"Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y Tafod Glas," meddai.

'Gwahaniaeth polisi wedi cael effaith sylweddol'

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman eu bod yn croesawu'r newyddion.

"Mae'r gwahaniaeth polisi rhwng Cymru a Lloegr wedi cael effaith sylweddol, yn enwedig o ystyried y nifer fawr o ddaliadau trawsffiniol a'r lefel uchel o fasnachu da byw," meddai.

"Bydd cyhoeddiad heddiw, felly, yn cael ei groesawu gan nifer yn y diwydiant, yn enwedig o ystyried y nifer o ffermwyr a marchnadoedd da byw sydd wedi cael trafferth delio â'r nifer o newidiadau polisi a gyflwynwyd dros y misoedd diwethaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.