Dod i 'nabod y dysgwyr: Deiniol Carter

  • Cyhoeddwyd
Deiniol CarterFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddion ffyrdd helpodd i gynnau diddordeb Deiniol yn yr iaith!

Bydd pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am y tro cyntaf eleni am fod y safon cyn uched.

Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi'r pump a thro Deiniol Carter ydy hi'r tro 'ma.

Disgrifiad,

Deiniol Carter sy'n wynebu cwestiynau Cymru Fyw y tro 'ma

Yn wreiddiol o Gernyw, mae Deiniol Carter yn ddatblygwr gwefan gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality yng Nghaerdydd.

Symudodd i Gymru dair blynedd yn ôl, ac aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ar ôl bod yn edrych ar arwyddion ffyrdd yng Nghymru a meddwl sut roedd gwahanol eiriau'n cael eu hynganu.

Cofrestrodd Deiniol gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd ym Medi 2012, ac ar hyn o bryd mae'n astudio'r cwrs safon Canolradd gan fynychu gwersi ddwywaith yr wythnos a mynd i glybiau darllen a chyrsiau Sadwrn yn rheolaidd, ynghyd â chyrsiau preswyl er mwyn mwynhau elfennau o ddysgu anffurfiol hefyd.

Yn y dyfodol, mae Deiniol yn awyddus i fod yn diwtor Cymraeg rhan-amser ac yn gobeithio gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pendraw. Mae'n awyddus i aros yng Nghymru gan ei fod wrth ei fodd yma, ac am rannu'i weledigaeth - siarad, ymarfer a mwynhau!

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.