Dod i 'nabod y dysgwyr: Debora Morgante

  • Cyhoeddwyd
Debora MorganteFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Disgynnodd Debora mewn cariad â'r iaith tra ar wyliau yng Nghymru

Bydd pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am y tro cyntaf eleni am fod y safon cyn uched.

Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi'r pump a thro Debora Morgante ydy hi'r tro 'ma.

Disgrifiad,

Mae Debora Morgante yn un o'r pump fydd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Yn wreiddiol o Tuscany, yn Yr Eidal, mae Debora Morgante yn byw ac yn gweithio mewn banc yn Rhufain.

Mae hi hefyd yn canu gyda dau fand ac yn chwarae'r gitâr drydan mewn gigs ar hyd a lled y wlad.

Fe deimlodd yn gartrefol yng Nghymru yn syth tra yma ar wyliau, a phenderfynu dysgu Cymraeg yn 2012 ar ôl ymserchu yn y wlad. Drwy ddefnyddio gwefan y BBC ac adnoddau eraill ar-lein i gychwyn, yn fuan iawn roedd Debora'n teimlo bod y Gymraeg yn mynd i fod yn rhan bwysig o'i bywyd felly prynodd lyfr gramadeg, dysgu'r holl lyfr ddwywaith a chofrestru ar gwrs Cymraeg yn Llanbedr Pont Steffan yng ngwanwyn 2014.

Ers hynny, mae hi wedi parhau gyda'i hastudiaethau ac mae wrthi'n dilyn cwrs Cymraeg ymarferol lefel Canolradd ar-lein. Mae Debora'n teimlo bod dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd, ac yn dweud bod yr iaith yn drysor gwerthfawr a dyma'i chyfraniad bychan i gadw'r Gymraeg yn fyw. Ei huchelgais yw parhau i ddysgu'r iaith ac yna mynd ati i ysgrifennu erthyglau, cyfansoddi cerddoriaeth a barddoniaeth, ac yn y pendraw, hoffai Debora ddod yn diwtor Cymraeg gan ddysgu drwy Skype er mwyn rhannu'r iaith gyda dysgwyr ym mhob cwr o'r byd.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015