Dod i 'nabod y dysgwyr: Patrick Young
- Cyhoeddwyd
Bydd pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am y tro cyntaf eleni am fod y safon cyn uched.
Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.
Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn holi'r pump a thro Patrick Young ydy hi'r tro 'ma.
Mae Patrick Young yn gyfarwyddwr opera, sy'n byw yn Llan Ffestiniog, Gwynedd.
Symudodd i'r ardal yn 2001, wedi cyfnod o fyw yn Yr Eidal, ac aeth ati i ddysgu Cymraeg fel arwydd o gefnogaeth i weddill y teulu, pan y cychwynnodd ei chwe phlentyn yn yr ysgol yn lleol.
Gyda chefndir ym myd cerddoriaeth ac opera'n arbennig, roedd Patrick wedi arfer defnyddio gwahanol ieithoedd wrth ei waith, a bu'i gariad at ieithoedd o bob math yn ysbrydoliaeth iddo wrth fynd ati i ddysgu Cymraeg.
Pan yn agosáu at ddiwedd ei gwrs Cymraeg penderfynodd Patrick sefydlu cwmni opera yn y Gymraeg gyda'i wraig, a thros y saith mlynedd ddiwethaf, mae'r cwmni - a Chymraeg Patrick - wedi mynd o nerth i nerth.
Erbyn hyn mae'r cwmni wedi bod ar daith ar draws Cymru bum gwaith gan berfformio fersiynau Cymraeg newydd sbon o wahanol operâu bob tro, gyda chriw o gantorion a cherddorion ifanc a thalentog, gyda Patrick wrth y llyw, yn arwain ac yn ysbrydoli pawb.