Cam-drin plant ar y we: 'Problem enfawr'

  • Cyhoeddwyd
llygoden cyfrifiadurFfynhonnell y llun, PA

Mae angen gweithredu ar frys i rwystro delweddau o gam-drin plant rhag ymddangos ar y we, yn ôl pennaeth yr NSPCC yng Nghymru.

Fe wnaeth Des Mannion ei sylwadau ddwy flynedd wedi i David Cameron addo rheolau llymach i rwystro'r math hwn o gam-drin.

Ers hynny mae'r NSPCC wedi cyhoeddi darlun o nifer o droseddwyr sydd wedi eu dwyn gerbron llys am achosion o'r fath.

Yng Nghymru mae'r troseddwyr hynny yn cynnwys cyn ddirprwy-bennaeth ysgol o Wrecsam, diddanwr plant o Fae Colwyn a gofalwr ysgol o Gaerdydd.

"Mae ystod y broblem yn syndod i mi, yn enwedig o ystyried fod nifer o'r troseddwyr yn rhan mor bwysig o'n cymunedau ni," meddai Mr Mannion.

'Yn broblem enfawr'

"Dim ond tamaid bychan iawn o gannoedd o achosion tebyg ydi'r darlun hwn.

"Mae'n fyth nad oes 'na ddrwg wrth edrych ar y delweddau yn unig. Mae babis a phlant diniwed yn cael eu cam-drin er mwyn bwydo awch troseddwyr, a dyw'r awch hwnnw ddim yn pallu.

"Fe wnaeth y prif weinidog geisio taclo'r broblem ond mae'n glir - ddwy flynedd wedi iddo alw am reolau llymach - fod hon yn dal i fod yn broblem enfawr.

"Mae angen gweithredu ar frys i rwystro'r cam-drin echrydus hwn rhag ymddangos ar-lein."

Yn ystod araith yn 2013 fe addawodd Mr Cameron ragor o bwerau, gan annog gwefannau chwilio i rwystro pobl rhag chwilio am ddelweddau o gam-drin.

Ond mae adroddiad diweddar yn dangos fod dros hanner ymchwiliadau i gam-drin plant ar y we yn annigonol.