Edrych nôl ar y Pafiliwn // The Pavilion over the years
- Cyhoeddwyd
Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015 oedd ymddangosiad olaf y Pafiliwn pinc, sef un o'r pafiliynau mwyaf eiconig yn hanes yr Eisteddfod. Eleni, mae gan brif lwyfan yr Ŵyl gartref newydd. Dyma gipolwg yn ôl ar sut mae pafiliwn yr Eisteddfod wedi newid ar hyd y blynyddoedd.
The Eisteddfod's much-loved pink pavilion is being replaced this year. Here, we take a look at the variety of different pavilions that have played host to thefestival's competitions and ceremonies over the years.

Yn 1872, cafodd Eisteddfod Gadeiriol Eryri ei chynnal yn Nhremadog ar 28-30 Awst, a cynlluniwyd y Pafiliwn gan y peiriannydd a'r pensaer lleol, Thomas Roberts // The newly-opened Cambrian Railway at Porthmadog served as an essential transport link for visitors to the National Eisteddfod in Tremadog in 1872

Yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Freiniol Bangor yn 1874 oedd 'Awdl y Beibl' gan E Gurnos Jones, Talysarn // Robert Rees (aka Eos Morlais) sang Hen Wlad Fy Nhadau at the Eisteddfod held yn Bangor in 1874 and "had taken the Eisteddfod by storm". The anthem has been sung at every Gorsedd ceremony since 1880

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882 oedd Dafydd Rees Williams am y bryddest ar y testun 'Y Cadfridog Garfield', ond doedd neb yn deilwg o'r Gadair // Local residents weren't too keen for the National Eisteddfod to return to Denbigh in 1882, as the unofficial Eisteddfod held in Denbigh Castle in 1860 had suffered financial losses

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895, enillydd y Gadair oedd John Owen Williams (Pedrog), ac mae'r Gadair fawr bren addurniedig bellach yn ôl yn Llanelli, ac yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard // The 1895 and the 1903 National Eisteddfod were both held in the specially-built wrought iron and glass pavilion in Llanelli, that could hold 20,000 people

Crwys oedd y bardd buddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol // The 1911 National Eisteddfod pavilion was a wooden structure that could hold 12,000 people, and was located in Carmarthen Park

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 1924 ei chynnal ar 4-9 Awst ym Mharc Mhontypŵl, ac enillydd y Gadair oedd Cynan // Prince Edward, Prince of Wales attended one day of the Pontypool National Eisteddfod in 1924 and caused quite a crowd to visit the town

Roedd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933 yn un hynod anarferol, gan ei bod wedi ei cherfio yn Shanghai, wedi iddi gael ei chomisiynu gan J R Jones, gynt o Dalysarn // The bard Trefin won the Shanghai-made Chair at the 1933 Wrexham Eisteddfod, whilst the winner of the Crown was Simon B Jones

Roedd rhaid rhoi baner Jac yr Undeb newydd ar do Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei dwyn y noson gynt // The Union Jack was stolen from the roof of the pavilion during the Pwllheli Eisteddfod in 1955 - but was swiftly replaced!

Yr Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1963 oedd Cynan, ar ddechrau ei ail dymor yn y swydd, ar ôl ei gyfnod cyntaf fel Archdderwydd yn yr 1950au // The Pavilion being prepared for the 1963 Eisteddfod in Llandudno. Nobody was deemed worthy of winning the Chair that year

Morgan Mathias, o Sydney oedd Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a'r Cylch yn 1971 // The wooden pavilion (seen here in Bangor in 1971) stopped being used after the Cardigan Eisteddfod in 1976, and was apparently given to the farmer who owned the land it was held on

Selwyn Iolen enillodd y Goron ym mhafiliwn streipiog gwyrdd a melyn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989. Daeth yn Archdderwydd yn Eisteddfod 2005 // The winner of the Literature Medal at the 1989 Eisteddfod in Llanrwst was the author, Irma Chilton for her novel for young people, 'Mochyn Gwydr'

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 oedd yr wythfed tro i'r ŵyl ddod i gyffiniau Bangor // After a short stint, the 2005 National Eisteddfod at Bangor was the final outing of the yellow and blue striped pavillion

Rhwng Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006 a Maldwyn yn 2015, daeth y pafiliwn pinc yn eicon yr Ŵyl. // The pink pavilion became a much-loved icon of the Eisteddfod between 2006 and 2015.