Ffarwel i'r Pafiliwn Pinc?
- Cyhoeddwyd
Efallai mai hon fydd blwyddyn ola'r Pafiliwn Pinc, gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn bwriadu gosod cytundeb y pafiliwn ar dendr yn ystod yr hydref.
Fe gyrhaeddodd y pafiliwn presennol y Maes am y tro cynta' yn Abertawe yn 2006, pan ofynnodd y cwmni sy'n llogi'r strwythur i'r Eisteddfod a fyddai diddordeb mewn llogi un pinc. Roedd yr hen bafiliwn streipiog wedi gweld dyddiau gwell.
Roedd elusen ganser yn awyddus i gael pabell binc, ac fe gytunodd yr Eisteddfod.
Symbol
Erbyn hyn, mae'r Pafiliwn Pinc yn eiconig, yn un o'r symbolau sy'n cynrychioli'r haf yng Nghymru, gyda'r ddelwedd yn cael ei defnyddio wrth sôn am yr iaith Gymraeg a diwylliant y wlad.
Mae'r gwaith o godi'r pafiliwn yn dechrau rhai wythnosau cyn y Brifwyl wrth i bedair lori gymalog 15 metr o hyd gludo'r darnau mewn bocsys i'r Maes. Yna, fe fydd 30 o weithwyr yn codi'r babell - sy'n mesur 62 metr wrth 60.5 metr - dros gyfnod o bedwar diwrnod.
Unwaith mae'r babell ei hun yn ei lle, mae'r gwaith o osod y llwyfan a'r 2,506 o seddi'n cychwyn, gyda hyn yn cymryd pedwar diwrnod arall, cyn i'r gweithwyr osod y rig goleuo sy'n cymryd chwe diwrnod. Y cam olaf yw gosod y set, sy'n cymryd tridiau.
'Heriau mawr'
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, "Mae'r contract gyda'r cwmni llogi'n dod i ben eleni, ac erbyn hyn rydym ni'n sylweddoli bod angen edrych ar y Pafiliwn yn ofalus. Ydi, mae'r adeilad yn ddelwedd eiconig sydd wedi bod o gymorth mawr i ni wrth hyrwyddo'r Eisteddfod ac wrth ddenu ymwelwyr. Ond ai dyma'r strwythur gorau ar gyfer ein cystadleuwyr, ac ar gyfer cynnal cyngherddau gyda'r nos?
"Mae siâp yr adeilad, a'r ffaith bod polion mawr y tu mewn i'r adeilad yn creu heriau mawr i ni bob blwyddyn, ac yn ei hanfod, pabell fawr fel un y byddech yn ei chael mewn syrcas yw'r Pafiliwn, nid neuadd gyngerdd arobryn.
"Mae'r timau sain a goleuo wedi llwyddo i wneud gwyrthiau dros y blynyddoedd, ond gyda'r contract yn dod i ben eleni, mae'n bryd edrych i weld a oes gwell strwythurau ar gael, a fydd yn ein galluogi ni i gynnig gwell darpariaeth ar gyfer ein cystadleuwyr a'r gynulleidfa.
"Ond, efallai mai'r Pafiliwn Pinc fydd yn dychwelyd eto ym Mynwy a'r Cyffiniau. Tan i ni siarad gyda chwmnïau darparu strwythurau o'r fath, allwn ni ddim dweud, felly cawn weld dros y misoedd nesaf. Ond beth bynnag fydd y penderfyniad, fe gawn ni gyfle i fwynhau'r Pafiliwn Pinc ar y Maes ym Meifod."
'Mwy hyblyg'
Ychwanegodd Trefnydd y Brifwyl, Elen Elis: "Mae'r Pafiliwn Pinc yn weledol eiconig yn dydy - mae pobl yn ei weld o a'n gwybod bod y 'Steddfod wedi cyrraedd.
"'Da ni ddim yn gwybod - falle fydd gynnon ni'r Pafiliwn eto, falla fydd gynnon ni adeilad arall. Falla rhywbeth fydd yn fwy hyblyg ar gyfer y gweithgareddau oddi fewn, fel y cyngherddau ac yn y blaen."
Atgofion
Yn y cyfamser, mae'r Eisteddfod a BBC Cymru Fyw yn awyddus i gasglu atgofion pobl am y Pafiliwn Pinc.
Os oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech chi ei rannu, yn stori am gystadleuaeth arbennig neu'n atgof am seremoni gofiadwy, gallwch naill ai e-bostio gwyb@eisteddfod.org.uk neu cymrufyw@bbc.co.uk, neu gysylltu ar Twitter - @eisteddfod neu @BBCCymruFyw.
Bydd rhai o'r straeon yn cael eu rhannu a'u cyhoeddi yn nes ymlaen yn y flwyddyn.