Twristiaeth Cymru 'mewn sefyllfa dda'
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Cynghori Twristiaeth Cymru wedi cyhoeddi dau benodiad newydd, wrth i'r panel gyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol.
Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi penodi Ian Jones, prif weithredwr S4C a Paul Donovan, cadeirydd Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru.
Mae'r ail adroddiad blynyddol ar weithgarwch Croeso Cymru yn dweud "bod twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa dda".
Fe gafodd y Bwrdd Cynghori Twristiaeth ei sefydlu dwy flynedd yn ôl fel rhan o strategaeth twristiaeth Cymru i roi cyngor gweinidogol ar faterion twristiaeth.
Llongau mordeithio
Yn 2014-15, cyfanswm y gwariant gan weithgarwch marchnata Croeso Cymru oedd £238m, gan gefnogi tua 5,455 o swyddi.
Fe gafodd 1,400 o swyddi eraill eu cynnal gan Ddigwyddiadau Mawr Croeso Cymru, a gweithgareddau yn gysylltiedig â'r diwydiant teithio a mordeithio.
Yn 2015, mae 46 o longau mordeithio yn bwriadu ymweld â Chymru - cynnydd o 94% ers y llynnedd, gyda 22,500 o deithwyr, ac effaith economaidd o £2.9m.
Fe gafodd y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd ei lansio ym mis Ebrill, ac mae'n anelu at helpu ymwelwyr â Chymru i ddarganfod ein bwyd a'n diod o safon uchel.