Grŵpiau rhagbrofol Cwpan y Byd wedi'u dewis

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi helpu Cymru i godi i'r 10fed safle yn netholion Fifa

Bydd Cymru yn wynebu Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldova a Georgia yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cypan y Byd 2018 yn Rwsia.

Roedd rheolwr Cymru Chris Coleman wedi teithio i St. Petersburg ar gyfer y seremoni, ble gwelodd Cymru yn cael eu gosod yng ngrŵp D.

Roedd Cymru ymysg y prif ddetholion ar gyfer adran Ewrop wedi iddyn nhw godi i'r 10 uchaf ar restr detholion Fifa am y tro cyntaf yn dilyn eu perfformiad yng ngemau rhagbrofol Euro 2016.

Golygai hyn eu bod yn bendant o osgoi'r timau cryfaf yn y gystadleuaeth.

"Mae o'n grŵp da," meddai Coleman. "Rydych chi'n edrych ar y grwpiau eraill a meddwl y gallai hi fod yn haws, ond efallai y gallai hi fod yn fwy anodd."

"Mae'r grŵp yn un positif. Fe fydd 'na gemau da ac rwy'n meddwl y bydd yr holl wlad yn edrych ymlaen."

Y gwrthwynebwyr

Cymru oedd yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw wynebu Awstria yn 2013, ond maen nhw wedi colli'r dwy waith iddyn nhw gyfarfod Serbia, gan ildio naw gôl yn y broses.

Mae gan Gymru record hafal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, gan guro pump a cholli pump yn y 13 o weithiau i'r timau wynebu'i gilydd.

Roedd Cymru yn yr un grŵp a Moldova ar gyfer rowndiau rhagbrofol Euro 1996, gan ennill y gêm gartref a cholli oddi cartref.

Mae Cymru wedi cael eu trechu pob tro gan Georgia, yn y tair gwaith iddyn nhw gyfarfod.

Ffynhonnell y llun, @FAWales
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwr Cymru Chris Coleman wedi teithio i St. Petersburg ar gyfer y seremoni

"Dyw hi byth yn hawdd mynd i lefydd fel Georgia a Moldova, ac wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod safon Gweriniaeth Iwerddon ac Awstria," meddai Coleman.

"Yn yr ymgyrch Cwpan y Byd diwethaf fe wnaethon ni wynebu Serbia a cholli yn drwm ddwywaith, felly rydyn ni'n gwybod bod timau da yna.

"Ond rydyn ni hefyd yn gwybod ein bod ni wedi gwella llawer fel cenedl dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, ac ar ein cryfaf, fe fyddwn ni'n ein ffansio ni yn erbyn unrhyw un."

Cyrraedd Rwsia

Bydd rhaid i Gymru ennill y grŵp i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd Rwsia, tra bydd yr wyth tîm gorau sy'n gorffen yn ail yn eu grŵp yn wynebu gemau ail gyfle.

Rwsia yw'r unig dîm sy'n sicr o fod yn rhan o'r gystadleuaeth oherwydd mai nhw sy'n ei gynnal.

Unwaith erioed mae Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd - yn Sweden yn 1958 ble wnaethon nhw gael eu trechu yn y rownd gogynderfynol gan y tîm aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth, Brasil.

Roedd Cymru nhw ymysg y detholion isaf ar gyfer rowndiau rhagbrofol y Cwpan y Byd diwethaf yn 2014, gyda thimau fel San Marino ac Andorra, sy'n dangos y datblygiad sydd wedi bod dan reolaeth Coleman a Gary Speed.

Fe fydd dyddiadau ar gyfer y gemau yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul.