Tanni Grey-Thompson: Angen newid barn am anableddau
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i newid barn y cyhoedd am bobl gydag anableddau, medd athletwraig Paralympaidd mwyaf llwyddiannus Cymru.
Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dweud bod gemau Llundain 2012 wedi llwyddo i newid y ffordd mae athletwyr sydd ag anableddau'n cael eu gweld - ond nad yw hyn wedi ei adlewyrchu gan weddill cymdeithas.
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales bod rhai pobl anabl yn parhau i gael eu gweld fel rhywun sy'n cymryd mantais o'r system budd-dal.
"Dy'n ni'n parhau tu ôl i'r rhan fwyaf o grwpiau lleiafrifol," meddai.
Daw sylwadau'r cyn-athletwraig ac aelod Tŷ'r Arglwyddi ar Ddiwrnod Paralympaidd Cenedlaethol.
Dywedodd bod llwyddiant y gemau dair blynedd yn ôl yn golygu bod athletwyr Paralympaidd nawr yn cael eu derbyn fel athletwyr, rhywbeth mae hi'n ei weld fel cam pwysig.
Ond dywedodd wrth Vaughan Roderick: "Mae pobl anabl yn cael eu portreadu mewn tair ffordd wahanol: unai dy'ch chi'n athletwr Paralympaidd, yn cymryd mantais o'r system budd-dal, neu yn ddioddefwr.
"Dyw mwyafrif llethol pobl anabl ddim yn cymryd mantais o'r system budd-dal. Mae 'na nifer fawr sydd ddim yn hawlio dim o gwbl.
"Rwy'n meddwl ein bod ni mewn lle anodd, ond mae hynny'n rhannol oherwydd eich bod nawr yn gweld pobl anabl fel rhan o gymdeithas - rhywbeth oedd ddim yn cael ei weld 20 mlynedd yn ôl."
Dywedodd ei bod wedi gobeithio y byddai'r Ddeddf Cydraddoldeb ddaeth i rym dair blynedd yn ôl yn golygu newid mawr yn y ffordd roedd pobl ag anableddau yn cael eu trin.
Er cyfaddef bod gwelliannau, mae Ms Grey-Thompson yn dweud bod y gymuned anabl yn parhau'n "bell iawn o fod yn gyfartal".