Elwen Evans yn bennaeth coleg

  • Cyhoeddwyd
Elwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Evans yn Gofiadur Llys y Goron

Mae un o fargyfreithwyr blaenllaw y wlad wedi ei phenodi'n Bennaeth Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe.

Roedd Elwen Evans QC yn fargyfreithiwr mewn nifer o achosion llys pwysig, gan gynnwys llofruddiaeth April Jones a thrychineb Pwll y Gleision.

Hi yw Cofiadur Llys y Goron (barnwr rhan-amser) ac mae'n bennaeth siambr bargyfreithwyr ers nifer o flynyddoedd.

'Cyfle euraidd'

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Awst.

"Rwy'n credu bod cyfle euraidd gan y coleg i gyflawni rôl bwysig mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n bleser mawr gen i gael cyfle i arwain tîm a fydd yn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o raddedigion y gyfraith a chyfreithwyr," meddai.

"Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y coleg a rhagoriaeth ymchwil y brifysgol.

"Rwy'n awyddus i'r coleg ddarparu addysgu o safon sy'n canolbwyntio nid yn unig ar ymchwil ond hefyd ar gyflwyno hyfforddiant, sgiliau a phrofiad academaidd ac ymarferol o safon.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Elwen Evans QC yn parhau i fod yn rhan o rai achosion cyfreithiol

Bydd yn parhau i weithio fel Cofiadur ac ar gael i weithredu mewn rhai achosion cyfreithiol.

"Fel Pennaeth y Coleg, rwy'n credu y gallaf wneud gwahaniaeth mewn cyd-destun ehangach na'r hyn sy'n bosib fesul achos yn unig.

"Rydym yn wynebu penderfyniadau allweddol ym myd y gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys cwmpas addysg ac ysgolheictod cyfreithiol, cynnwys addysgu ac ymchwil cyfreithiol, sut bydd cyfreithwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill yn cymhwyso yn y dyfodol, ail-lunio'r sector cyfreithiol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

"Heriau eraill fydd datblygiad awdurdodaeth Cymru i ddeddfu ac effaith cyfathrebu digidol ar wasanaethau cyfreithiol."

'Cyfraniad eithriadol'

Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor a Deiliad Cadair Hodge yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser mawr gennym groesawu Elwen fel Pennaeth newydd ein Coleg y Gyfraith.

"Oherwydd ei harbenigedd a'i gwybodaeth ym maes datblygiad y gyfraith, fel disgyblaeth academaidd ac yn y byd go iawn, bydd hi'n gwneud cyfraniad eithriadol i ddyfodol datblygiad y Gyfraith a Throseddeg yn Abertawe.

"Bydd ei gwybodaeth a'i phrofiad yn amhrisiadwy wrth helpu Coleg y Gyfraith i gyflawni uchelgeisiau newydd."