Lluniau: Hanner canrif o Lol

  • Cyhoeddwyd

Rydym ni wedi cael 50 mlynedd o Lol. Ers ei sefydlu yn 1965 mae'r cylchgrawn dychanol a dadleuol wedi tynnu sawl blewyn o drwynau mawrion y genedl heb sôn am fyrstio swigod hunan-bwysig ambell un arall.

Mewn rhifyn arbennig o Cofio ar BBC Radio Cymru ar 29 Gorffennaf mae John Hardy yn edrych yn ôl ar hanes lliwgar y cyhoeddiad blynyddol y mae cryn edrych ymlaen i'w ddarllen yn ystod wythnos y Steddfod.

Faint o Lol ydych chi'n ei gofio? Dyma ddetholiad o rai o'r cloriau mwya' cofiadwy dros y blynyddoedd. Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg360, dolen allanol, sydd yn ein tywys trwy'r oriel:

Drenewydd 1965 - Y Lol cyntaf

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Ffrwyth llafur Robat Gruffudd a Penri Jones oedd y cylchgrawn Lol. Cafodd y rhifyn cyntaf un ei gyhoeddi yn Eisteddfod y Drenewydd 1965. Ond, fel y gwelwn ni, mi gymrodd hi 'chydig o amser iddo hawlio'r label 'dadleuol'...

Bala 1967

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Roedd y cyhoeddwyr ifanc wedi magu 'chydig mwy o hyder erbyn Steddfod 1967 fel y gwelwch chi, a nid y clawr yn unig oedd yn cynhyrfu'r dyfroedd...

Y tu mewn i'r rhifyn roedd un o dudalennau mwyaf dadleuol erioed y cylchgrawn.

Roedd 'na lun o ferch fronnoeth wedi'i sensro, gyda'r geiriau 'Bu Cynan yma', yn cyfeirio at y cyn-archdderwydd, Cynan Evans-Jones. Mi gewch chi weld y llun hwnnw a hanes ymateb Cynan i'r clawr mewn erthygl arall ar Cymru Fyw.

Cricieth 1975

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Roedd merched bronnoeth yn beth cyffredin iawn ar gloriau Lol erbyn canol y 1970au.

'Siân' oedd ar glawr rhifyn 1975, oedd yn cael ei hadnabod yn well dan yr enw Mary Millington - seren 'porn' amlwg o'r cyfnod.

Llambed 1984

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Dyma rifyn a ysgogodd ymateb chwyrn gan ffeministiaid Cymreig, gan arwain at ymosodiad ar adeilad gwasg Y Lolfa yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Llanbedr Pont Steffan y flwyddyn honno.

Porthmadog 1987

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Lol yn dathlu chwarter canrif, nid 25 o flynyddoedd, ond 25 rhifyn.

Cwm Rhymni 1990

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Un o rifynnau mwyaf dadleuol y cylchgrawn, oedd yn cynnwys erthygl a arweiniodd at achos enllib yn erbyn Lol a'r golygydd Eirug Wyn.

Ynys Môn 1999

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Rhifyn olaf y mileniwm, a 'Rhifyn Cŵl' yn ôl y clawr.

Casnewydd 2004

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Ymgais i newid cyfeiriad, gyda lansiad 'Dim Lol' a Catrin Dafydd yn olygydd.

Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010

Ffynhonnell y llun, Y LOLFA

Ar ddiwedd degawd gyntaf y mileniwm roedd Lol yn dal i golbio S4C, Plaid Cymru a'r sefydliadau Cymreig eraill.

Cofio: Hanner Canrif o Lol, BBC Radio Cymru, Dydd Mercher 29 Gorffennaf 18:15

Hefyd gan y BBC