Glyn Baines yw'r person hynaf erioed i ennill y Fedal Gelf

  • Cyhoeddwyd
Glyn BainesFfynhonnell y llun, Marian Delyth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Glyn Baines yn athro yn Ysgol y Berwyn, y Bala cyn iddo ymddeol yn 1989

Dyn 84 oed o Wynedd yw'r person hynaf i ennill y Fedal Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Glyn Baines o'r Bala, yn derbyn y wobr am ei gasgliad o waith haniaethol ar faes yr Eisteddfod ym Meifod ddydd Sadwrn.

Hefyd, mae'r artist Rhian Haf, o bentref Gwytherin, Conwy, wedi ennill y fedal Celf a Chrefft am ei gwaith gwydr.

Mae'r ddau yn derbyn siec o £5,000.

Fe wnaeth Glyn Baines adael busnes ffermio ei deulu pan yn ei 30au, a hynny er mwyn dilyn ei freuddwyd o fod yn artist.

Ffynhonnell y llun, National Eisteddfod of Wales
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o waith haniaethol wnaeth Glyn Baines ei gyflwyno

Dywedodd: "Dwi'n disgrifio fy ngwaith fel dathliad o liw a bywyd.

"Mae saith o ddarnau i gyd ac maen nhw i gyd yn bwysig iawn i mi."

Dywedodd Rhian Haf: "Mae'n wych cael y gydnabyddiaeth yma gan yr Eisteddfod Genedlaethol mor gynnar yn fy ngyrfa ac mae arnaf i ddiolch enfawr i bawb wnaeth weithio gyda fi i wneud y casgliad yma yn bosib."

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.