Ateb y Galw: Siân James

  • Cyhoeddwyd
Sian James

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld a Sir Trefaldwyn, mae'n briodol mai merch o'r ardal sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.

Y gantores Siân James sy'n ateb ein cwestiynau wedi iddi gael ei henwebu gan Lisa Jên yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gweld fy nhad-cu wedi marw yn y gwely a finne'n gofyn i fy mam i gael ei weld o bob dau funud - ac yn datgan yn ddramatig bob tro - " Oooo ….wedi marw.."

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Dwn 'im am ffansio, ond mi ro'n i dipyn bach yn obsessed efo Illya Kuriakin - un o'r cymeriadau yn y rhaglen deledu 'The Man From Uncle'. Dwi'n dangos fy oed rwan!!! Ond mi ro'n i'n sicr yn ffansio Starsky a Hutch - y ddau!!!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pi-pi yn fy nghlôs yn Steddfod Powys 1965 a gorfod mynd o gwmpas y cae heb nicar. Hunllefus!!

Disgrifiad o’r llun,

"Starsky, fy'swn i ddim yn gwisgo'r gardigan yna ym Maes B!"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Heddiw.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Argol - lle dwi'n cychwyn. Dwi'n gallu bod yn fler ac anhrefnus, yn anghofus a diamynedd o dro i dro; dwi hefyd yn dueddol o roi pethe pwysig offfel petai - hynny yw mi ai ati i olchi'r llawr neu glanhau'r ffenestri neu hyd yn oed rhoi foot massage i'r gath er mwyn osgoi cwblhau ffurflen dreth er enghraifft. Dipyn o brocrastinator yn y bôn!!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Ar hyn o bryd Budapest. Bum yno Hydref ddwytha efo fy ffrindie coleg a chael amser bendigedig! Dinas brydferth iawn!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn fy ieuenctid, torri mewn i Gastell Harlech efo Gwyn Maffia a rhedeg o gwmpas y waliau a'r tyrrau yn y tywyllwch ar ol yfed botel o win. Gwirion ac anghyfrifol iawn, iawn. Yn fwy diweddar - dal fy meibion yn fy mreichiau a'u bwydo am y tro cyntaf. Fydd yr atgofion hynny byth yn fy ngadael.

Oes gen ti datŵ?

Nagoes - er mod i dal i freuddwydio am gael un!!

Beth yw dy hoff lyfr?

Mae gen i lyfr wrth ochor fy ngwely (gyda theitl hynod o naff, felly dwi ddim am ddeud!) sydd yn llawn o ddyfniadau doeth am fywyd a'i heriau. Mae'n lyfr gwych ac yn rhoi gogwydd ysbrydol ar anawsterau bywyd sy'n help mawr i mi!!

Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â chanu, mae Siân hefyd yn gwbl gyfforddus ar y piano, y ffidil a'r delyn.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy mra!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Interstellar - difyr iawn ac yn siwtio'r' space cadet yma i'r dim!

Dy hoff albwm?

Dwi newydd ail-ddarganfod Pink Floyd diolch i fy meibion annwyl. Ar y funud fedrai'm stopio gwrando ar 'The Wall' ac yn enwedig y gân 'Comfortably Numb'

Disgrifiad o’r llun,

Petai Pink Floyd yn canu'n Gymraeg mi fysan nhw yn sicr yn cael llwyfan yn Meifod gan Siân!

â

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Scallops, stecan fillet rare (er gwaethaf fy ymdrechion i fod yn lysieuwraig!) a salad roced, a tiramisu neu falle salad ffrwythau i orffen.

Glasied o champagne i fynd efo fo'i gyd wrth gwrs. Dwi'n lodes ddrud i'w chadw!!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ew, ffonio bob tro! Tecst yn handi ond does na'm byd fel sgwrs dda efo ffrind!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Galadriel - am cymaint o wahanol resymau!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ffion Hague

Disgrifiad o’r llun,

Fyddai Siân yn troi mewn cylchoedd pe bai hi'n cael bod yn Galadriel, un o gymeriadau JRR Tolkien, am y dydd?