Gwobr Daniel Owen i Mari Lisa

  • Cyhoeddwyd
Mari Lisa
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Mari Lisa gyda'i hymgais gynta' ar nofel hir a dywedodd mai lleoliad y Brifwyl a'i sbardunodd i'w hysgrifennu

Mari Lisa, sydd â'i gwreiddiau ym mro'r Eisteddfod, sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015.

Mae'n derbyn y wobr a £5,000 am lunio nofel heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Roedd gwaith naw awdur yn cael eu hystyried ar gyfer y wobr eleni.

Y beirniaid eleni oedd Robat Arwyn, Angharad Price a Dewi Prysor, a Robat Arwyn fu'n traddodi ar lwyfan y pafiliwn bnawn dydd Mawrth.

Dywedodd fod llawer o drafod wedi bod am ddwy o'r nofelau yn benodol - sef 'Iddew', gan Kata Markon, a 'Veritas' gan Abernodwydd.

Doedd y tri beirniad ddim yn gytûn, gyda Dewi Prysor yn ffafrio 'Iddew' a'r ddau arall yn dewis 'Veritas'. Ond penderfynodd y tri yn y diwedd mai Abernodwydd oedd yn haeddu'r wobr am 'Veritas'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari Lisa yn hanu o Fro Ddyfi

'Amrywiaeth barn'

Meddai Robat Arwyn: "Veritas yw fy newis cyntaf i ac Angharad , tra bod Dewi'n gosod Iddew ar y blaen, a Veritas yn ail. Ac er yr amrywiaeth barn, rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi fod y tri ohonom yn hollol gytun fod Veritas gan Abernodwydd yn waith awdur hyderus, un sy'n feistr ar ei grefft, ac un sy'n llwyr deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen.

"Dim ond canmoliaeth sydd gan y tri ohona ni i'r gwaith sy'n nofel ddirgelwch, sy'n atgoffa rhywun o'r 'Da Vinci Code' gan Dan Brown. Mae'n nofel sy'n ein tywys ar antur ar draws Cymru wrth i'r dirgelwch ein harwain yn ôl trwy'r canrifoedd er mwyn datrys digwyddiadau dychrynllyd y presennol.

"Mae 'na gyffro a chliwiau, brad a chynllwyn, hanes ac etifeddiaeth, ac mae'r cyfan yn llifo'n rhwydd wrth symud o un olygfa i'r llall. Mae'r cymeriadau'n grwn a chofiadwy, ac mae'r ddeialog yn ddifyr, yn ffres a naturiol. Er yn nofel ddiogel, mae digon o olygfeydd cignoeth i greu ias a thensiwn, a digon o dwyll, brad a dichell i'n cadw ar y bachyn hyd at y diwedd un."

Lleoliad yn sbardun

Wedi'r seremoni, dywedodd Mari Lisa mai lleoliad yr Eisteddfod eleni a'i sbardunodd i ysgrifennu ei nofel hir gyntaf.

"O'n i'n gw'bod bod yr Eisteddfod ym Maldwyn a gw'bod bod rhaid i mi gystadlu, ac roedd gen i ryw syniadau am nofel ac yn meddwl, wel dyma gynnig arni gan fod ni ym Maldwyn, mae rhaid cystadlu, a dyna beth oedd y cymhelliant."

Er nad oedd hi am ddatgelu gormod am yr ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel, dywedodd: "Mae'n dechrau 'efo cymeriad o'r enw Martha, ac mae rhywbeth yn digwydd iddi hi ac mae hi'n cael ei thywys os liciwch chi ar daith o gwmpas Cymru.

"Mae 'na elfen o wirionedd, ffuglen ydi hi, ond mae 'na wirioneddau ynddi hi, a dwi'n meddwl mai'r gamp ydi i'r darllennydd ffindio allan be' sy'n wir a be' sydd ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y beirniad bod gwaith Mari Lisa, 'Veritas', yn eu hatgoffa o waith Dan Brown

Cefndir

Yn wreiddiol o Lanwrin ym Maldwyn, mae Mari Lisa'n byw yng Nghaerfyrddin erbyn hyn ac yn gweithio fel cyfieithydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg a Drama, a pharhau yno wedyn i ymchwilio i garolau plygain Maldwyn ar gyfer gradd MPhil.

Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn 1985, a choron yr Urdd yn Nyffryn Ogwen y flwyddyn ganlynol. Hi oedd awdur sioe gerdd yr ysgolion cynradd pan ymwelodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd â Maldwyn yn 1988.

Mae Mari yn ymddiddori mewn barddoniaeth yn ogystal â rhyddiaith, ac mae wedi ennill amryw gadeiriau mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol. Cyhoeddwyd ei cherddi mewn sawl cyfrol, gan gynnwys casgliad Beirdd Bro Eisteddfod Sir Gâr y llynedd. Mae'n llais rheolaidd ar raglen Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru, ac wedi cyfrannu at dimau ymryson Caerfyrddin a Maldwyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Er iddi gyhoeddi sawl stori fer eisoes, a chyfieithu un o nofelau PD James 'Ar Gortyn Brau', dyma'i nofel hir gyntaf.

Mae'n briod â Huw ac mae ganddynt un ferch, Beca.

Disgrifiad,

Gwobr Goffa Daniel Owen / Daniel Owen Memorial Prize

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, parhau mae'r ymchwiliad i gynnwys nofel a gafodd ei di-arddel o'r gystadleuaeth.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.