Digidol: Diwedd teledu?
- Cyhoeddwyd
Yn narlith goffa Owen Edwards ar y maes bnawn Mawrth, bu Dylan Iorwerth yn holi ai digidol fyddai diwedd teledu?
Disgrifiodd ffurf teledu fel rhywbeth "sy'n cael ei greu gan griw bach ar gyfer criw mawr, a'i gyflwyno mewn ffordd benodol."
Ei fwriad yn ystod y ddadl, meddai, oedd deall prosesau a datblygiad y cyfryngau, ac effaith y datblygiadau hynny ar ddiwylliant a seicoleg.
Soniodd am effaith datblygiadau cynharach ym maes cyfathrebu - y wasg argraffu, ac yna'r gallu i dynnu lluniau a recordio sain, a'r "effaith syfrdanol" gafodd hynny ar gymdeithas.
Yna, radio a theledu, oedd nid yn unig yn storio gwybodaeth, ond yn ei drosglwyddo yn ogystal.
Holodd yw "pob cyfrwng newydd yn dynwared yr hyn sydd eisoes yn bod"? Roedd argraffiadau cynnar yn dynwared llawysgrifen, a theledu cynnar yn dynwared ffurf radio - person o flaen meicroffon.
'Ynghynt ac ymhellach'
Drwy'r oesoedd, meddai Dylan Iorwerth, mae "technoleg wedi symud ynghynt ac ymhellach", o siarad i ysgrifennu, y wasg argraffu, teledu (telegram, ffôn a radio) ac yna'r cyfryngau newydd, y rhyngrwyd ac ati.
Soniodd am y "tuedd i deimlo bygythiad gan gyfryngau newydd", wrth i wladwriaethau geisio "rheoli tonfeddi". Mae gwledydd y gorllewin yn parhau i reoli, meddai, ond drwy fonitro, yn hytrach na gwahardd.
"Dydi'r un cyfrwng newydd byth yn llyncu'r hen un," meddai. Yn hytrach, mae'n cymryd ychydig o'r gwaith oddi arnyn nhw.
"Datblygiad preifatrwydd" oedd un rhan enfawr o boblogrwydd y teledu, yn ôl Dylan Iorwerth.
Dyfynodd o waith Raymond Williams, gan sôn fod pobl yn fodlon derbyn technoleg salach i gael mwy o breifatrwydd.
Dywedodd fod hyn yn parhau i fod yn wir, gan fod pobl "yn derbyn lluniau salach ar y rhyngrwyd".
'Eang a lleol'
Wrth gloi, dywedodd Dylan Iorwerth fod "y rhyngrwyd yn llwyfan i'r holl gyfryngau eraill", gan ei fod yn eang a lleol ar yr un pryd, a bod y gallu yno i'w ddefnyddio'n fasnachol ac ar gyfer deunydd rhad ac am ddim.
Dyfynnodd gan Marshal T. Poe, gan fynegi fod y rhyngrwyd "wedi dileu amser", mae'r cynnwys yno i wylio, gwrando a darllen eto.
Awgrymodd y bydd y defnydd o dechnoleg o ansawdd uchel yn parhau, wrth i bobl barhau i brynu teledu a mynychu'r sinema, ond y bydd y rhyngrwyd yn tyfu yn ei boblogrwydd "iwtilitaraidd", hawdd a chyflym i'w ddefnyddio.
"Mae'r ddadl hon o bwys mawr i ddyfodol yr iaith Gymraeg," meddai, "ond dadl at rywbryd eto ydi honno".