Trafod Eisteddfod heb Faes

  • Cyhoeddwyd
eistedddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod yn siarad â Chyngor Caerdydd am gynnal gŵyl wahanol yn y brifddinas.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ystyried cynnal yr ŵyl yng Nghaerdydd yn 2018 heb y Maes traddodiadol.

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, eu bod yn cynnal trafodaethau ynglŷn â chynnal y gweithgareddau mewn adeiladau yn y brifddinas, yn hytrach nag ar un safle.

Ymhlith yr adeiladau a allai gael eu hystyried mae Canolfan y Mileniwm a Neuadd Dewi Sant, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â chanolfannau llai o faint fel Theatr Sherman a Chanolfan Chapter.

Dywedodd Mr Roberts "Mae'r trafodaethau yna newydd ddechrau, fe gymerith o rai misoedd eto, ond rwy'n obeithiol y daw rhywbeth o'r trafodaethau."

"Does neb wedi gwneud hyn o'r blaen - er bod y syniad wedi cael ei grybwyll gan sawl un. Caerdydd yw'r lle i drio hyn, a fedrwch chi ddweud tan i chi geisio rhoi cynnig arni."

Pwysleisiodd Mr Roberts ei fod yn bwysig ceisio adolygu'r Eisteddfod yn gyson a chyflwyno newidiadau yn flynyddol.

"Fe fyddai yn ddiwedd ar yr eisteddfod petai ni'n dweud 'da ni wedi cyrraedd a does dim angen mwy o newid."

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.

eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd 2008, mewn canolfan chwaraeon yn y brifddinas.