Galwad am erlyniadau wedi methiannau yng nghartref gofal Brithdir
- Cyhoeddwyd
Mae teulu gwraig oedd yn byw mewn cartref ble bu farw pobl oherwydd gofal gwael eisiau i'r bobl oedd yn gyfrifol i gael eu herlyn.
Roedd Edith Evans yn byw yng Nghartref Gofal Brithdir, ger Bargoed yn Sir Caerffili, o 1999 tan ei marwolaeth yn 2005. Mae'r cartref bellach dan reolaeth newydd.
Dywedodd Kelvyn Morris, gwr nith Mrs Evans: "Rydyn ni eisiau newid yn y gyfraith i wneud hi'n haws i erlyn... Mae'n sgandal."
Ddydd Gwener, penderfynodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod methiannau pum nyrs yng Nghartref Gofal Brithdir gyfystyr â chamymddwyn.
Mae'n bosib y bydd y nyrsys Tembakazi Moyana, Rachel Tanta, Daphne Richards, Susan Greening a Beverley Mock yn wynebu sancsiynau.
Ym mis Mai, canfu panel disgyblu fod 86 o fethiannau wedi eu profi allan o 150 o honiadau mewn perthynas â naw o breswylwyr y cartref rhwng 2004 a 2006.
Bu Operation Jasmine, ymchwiliad £11.6m i gartrefi gofal Puretruce Health Care Ltd, yn ymchwilio i'r methiannau hyn.
Yn 2013, penderfynwyd y byddai cyhuddiadau yn erbyn cyfarwyddwr y cwmni hwnnw, Dr Prana Das yn aros ar y ffeil, wedi iddo ddioddef niwed i'w ymennydd yn ystod lladrad yn ei dŷ.
Dywed Mr Morris, sy'n byw yn Hengoed, ei fod e a'i wraig Gail wedi lleisio'u pryderon ynghylch glendid, a matresi'n cael eu gadael ar lawr, gyda staff y cartref, ond yn ofer.
Roedd tiwb bwydo roedd Mrs Evans ei angen hefyd yn "frwnt" meddai.
Wnaeth Mr Morris ddim sylweddoli maint y broblem tan iddo gyfarfod â theuluoedd eraill a gyfrannodd i Operation Jasmine, wedi i achos Dr Das ddod i ben, a nawr mae grŵp ohonyn nhw'n ymgyrchu dros newid yn y gyfraith.
"Mae'n ddirdynnol parhau i ail-fyw'r hyn oedd yn digwydd i'n perthnasau, mae e wedi dweud ar nifer o aelodau'r grŵp ond rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i bethau newid a gwella."
Dywedodd Mr Morris: "Mae angen i hyn fynd llawer ymhellach na'r Coleg Nyrsio... diau y dylid cael achos troseddol... Dydyn ni ddim eisiau iawndal ariannol, rydyn ni jyst eisiau i rywun fynd o flaen llys."
Gofynnwyd i Wasanaeth Erlyn y Goron am sylw.