'Llawer mwy' yn cael trafferth talu treth cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael trafferth talu treth y cyngor wedi codi 51% mewn 12 mis, yn ôl adroddiad.
Erbyn hyn mae dros 6,000 wedi cael trafferthion, yn ôl Canolfan Cyngor ar Bopeth, a hon yw'r broblem dyled fwyaf yn y wlad.
Mae treth y cyngor wedi codi tua 4% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn cael eu gwarchod.
2,000 o gartrefi
Ond mae'r adroddiad wedi dweud bod beilïaid wedi ymweld â 2,000 o gartrefi'r llynedd i gasglu treth cyngor.
Dywedodd llefarydd o'r mudiad: "Ar adeg o lymder dydi hi ddim yn syndod bod niferoedd y cartrefi sy'n cyfeirio at broblemau talu treth cyngor wedi codi.
"Ond ar gyfartaledd mae biliau yma £160 yn llai nag yn Lloegr."