Wrecsam 3-1 Torquay
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor wrth iddyn nhw drechu Torquay ar y Cae Ras nos Fawrth.
Roedd y tîm cartref ar ei hol hi ar ôl i Josh Carmichael sgorio i'r ymwelwyr.
Ond daeth Wrecsam yn gyfartal drwy Dominic Vose, ac yna ar y blaen diolch i Connor Jennings.
Cic o'r smotyn gan James Gray sicrhaodd y pwyntiau, ar ôl trosedd ar Jamal Fyfield.