Gostyngiad mewn troseddau ar y trenau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi datgelu y bu gostyngiad sylweddol mewn tor-cyfraith ar drenau yng Nghymru, ond fe gofnodwyd nifer uwch o droseddau rhyw.
Cofnodwyd 150 yn llai o achosion yn ystod 2014-15, sef gostyngiad blynyddol o 11%.
Mae hynny'n cymharu â gostyngiad cyffredinol ar draws Prydain o 8%.
Bu cynnydd mawr mewn troseddau rhyw yn ystod yr un cyfnod wrth i'r nifer o droseddau o'r math yma gynyddu 15.8%.
Yn ôl yr heddlu mae nifer uwch o bobl yn barod i adrodd ynglŷn â throseddau rhyw, ac mae hynny yn egluro'r cynnydd.
Bu 22 o achosion o droseddau rhyw ar drenau Cymru yn ystod y cyfnod, sydd yn ffigwr gymharol isel yn ôl yr heddlu.
Bu gostyngiad cyffredinol yn nifer y troseddau yn ymwneud ag eiddo. Roedd 25% yn llai o achosion o droseddau yn erbyn eiddo'r rheilffyrdd, tra roedd 8% yn llai o achosion o ddwyn eiddo teithwyr.
Bu gostyngiad hefyd mewn troseddau treisgar - 3% yn llai.
Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Mae tor-cyfraith ar drenau yn gymharol brin, ac rydym yn falch bod y ffigyrau yma yn dangos gostyngiad arall."