'Trawsnewid' Abertawe erbyn 2020
- Cyhoeddwyd

Mae strategaeth Abertawe yn edrych ymlaen at 2020
Bydd canol Abertawe yn edrych yn gwbl wahanol erbyn 2020 wrth i'r trawsnewidiad mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd ddigwydd yno, yn ôl arweinydd cyngor y ddinas.
Mae saith cynllun gwerth tua £3 biliwn yn rhan o ddatblygiad yn y ddinas.
Mae'r rhain yn cynnwys ail gampws Prifysgol Abertawe, y lagŵn ynni llanw ac adfywiad canolfan Dewi Sant.
Ond mae BBC Cymru yn deall bod mwy o gynlluniau i gael eu dadorchuddio yn y dyfodol.
"Dyma'r newid mwyaf i'r dirwedd ers yr Ail Ryfel Byd," meddai arweinydd y cyngor, Rob Stewart.
"Pan y'ch chi'n edrych ar Abertawe ar ôl y cyrchoedd bomio, dim ond un adeilad oedd ar ôl. Nawr mae'r adeiladau yma wedi'u hadeiladu yn y 1950au.
"Bydd pob ardal o ganol y ddinas yn cael eu heffeithio gan y datblygiad yma."

Campws newydd Prifysgol Abertawe

Bydd Campws y Bae yn agor ym mis Medi eleni
Bydd y safle 69 erw yn canolbwyntio ar wyddoniaeth, ac yn darparu llety i fyfyrwyr yn ogystal.
Cost: £450m
Dyddiad cwblhau: 2015

Lagŵn Bae Abertawe

Lagŵn ynni'r llanw cyntaf yn y byd, yn cynhyrchu ynni i dros 155,000 o gartrefi
Cost: £1 biliwn
Dyddiad cwblhau: 2018

Canolfan Dewi Sant

Safle masnachol a hamdden i gael ei adeiladu ar safle Dewi Sant, gyda llwybr dros y ffordd i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £500m
Gwaith yn dechrau: 2017

Ffordd y Brenin

Fe allai Ffordd y Brenin gael ei drawsnewid i ardal ar gyfer cerddwyr a siopwyr.
Cost: Dim gwybodaeth eto
Gwaith yn dechrau: 2015

Campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi dadorchuddio cynlluniau ar gyfer campws yn natblygiad SA1 Abertawe
Cost: £100m
Gwaith yn dechrau: Cynlluniau wedi'u cyflwyno

Coridor Afon Tawe

Bydd y cynlluniau yn rhedeg ar lan Afon Tawe o Stadiwm Liberty i Barc Tawe
Nifer o gynlluniau tai ar lan Afon Tawe o Stadiwm Liberty i Barc Tawe. Mae'n cynnwys ffordd £4.5m i leihau traffig.
Cost: Dim gwybodaeth eto
Dyddiad cwblhau: 2017/18

Cynlluniau Ysbytai

Cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau ysbyty. Bydd Ysbyty Treforys yn dyblu mewn maint a bydd Ysbyty Singleton yn dod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer gwasanaethau diagnostig.
Cost: £600m
Dyddiad cwblhau: 2020