5% o bobl Cymru o wledydd tramor

  • Cyhoeddwyd
caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe welwyd y cynnydd poblogaeth mwyaf yng Nghaerdydd

Mae'r ystadegau poblogaeth diweddaraf yn dangos bod 5%, neu 180,000, o boblogaeth Cymru yn hanu o wledydd tramor.

Mae hynny yn cymharu â 3.2%, neu 95,000, yn 2004.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, (ONS) mae poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 2.88 miliwn yn 2004 i 3.1 miliwn yn 2014.

O'r cyfanswm o 180,00 a anwyd tu allan i'r DU, mae 80,000 yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r 100,000 arall yn hanu o weddill y byd - gan gynnwys 52,000 o Asia.

Fe welwyd y twf poblogaeth "tramor" mwyaf yng Nghaerdydd.

O'r 351,000 sy'n byw yn y brifddinas, fe aned 48,000 neu 13.6% mewn gwledydd tramor.

Mae hynny yn cymharu â 23,000 degawd yn ôl.

Yn Abertawe mae 18,000 o'r bobl yno yn hanu o dramor, cynnydd o 8,000 mewn 10 mlynedd.

Yn ôl yr ONS, mae 10,000 o drigolion Wrecsam wedi symud yno o wledydd tramor, cynnydd o 7,000 ers 2004.