Oes modd cynhesu bob tŷ yng Nghaerdydd gyda dŵr dan ddaear?

Mae Ashley Patton yn gobeithio gweld Cymru yn "arwain y ffordd" o ran defnydd o bympiau gwres o'r ddaear
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu y byddai modd cynhesu bob tŷ yng Nghaerdydd yn defnyddio dŵr tanddaearol.
Mae traffig, busnesau a gweithgaredd pobl ar strydoedd y brifddinas wedi arwain at yr hyn sy'n cael ei alw'n "lygredd thermol", sy'n golygu bod dŵr dan ddaear yn anghyffredin o gynnes.
Ers 11 mlynedd mae Arolwg Daearegol Prydain wedi bod yn mesur tymheredd y dŵr dan strydoedd Caerdydd, gan nodi fod y tymheredd yn oddeutu 12 gradd.
Fe allai hyn gael effaith bellgyrhaeddol ar y 124,000 o gartrefi yn y ddinas, yn ogystal â thai o amgylch y DU.
Buddsoddiad yn y sector ynni glan 'yn cael ei wario yn y lle anghywir'
- Cyhoeddwyd26 Hydref
Cymeradwyo cynllun ynni trydan dŵr Clwb Rygbi Nant Conwy
- Cyhoeddwyd28 Hydref
Galw am well strategaeth ar safleoedd storio ynni yng Nghymru
- Cyhoeddwyd7 Awst
Yn y 1990au cafodd 234 o dyllau turio eu drilio gan y cyngor er mwyn monitro lefel y dŵr wrth adeiladu'r morglawdd ym Mae Caerdydd.
Y tyllau hynny sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer gwaith ymchwil Arolwg Daearegol Prydain - sy'n cael ei ddisgrifio fel yr arolwg mwyaf o ddŵr daear trefol erioed.
Mae data'r arolwg yn awgrymu y gallai'r ddinas gyfan gael ei gwresogi yn defnyddio pympiau gwres o'r ddaear (ground source heat pumps) - fyddai'n cael eu pweru gan ynni daearwresol (geothermal).
Mae pympiau gwres yn defnyddio trydan yn hytrach na nwy neu olew, gan wresogi adeiladau trwy amsugno gwres o'r awyr, y ddaear neu ddŵr.
Cymru i 'arwain y chwyldro gwyrdd'?
Yn ôl Ashley Patton, sy'n ddaearegydd peirianyddol, dyw Caerdydd a dinasoedd tebyg ddim yn deall potensial yr hyn sydd o dan eu traed.
"Pan mae pobl yn meddwl am ynni daearwresol maen nhw'n meddwl am losgfynyddoedd Gwlad yr Iâ, ond dydyn nhw ddim yn deall bod yr adnodd hwn yma ac yn barod i'w ddefnyddio," meddai.
Mae hi'n gobeithio gweld Cymru yn "arwain y ffordd" o ran defnydd o bympiau gwres o'r ddaear gan fynnu ein bod "mwy neu lai yn barod i fynd".
"Fel yr oedd Cymru ar un adeg yn arwain y chwyldro diwydiannol gyda'i glo, fe allwn ni arwain y chwyldro gwyrdd gyda'n hynni daearwresol."

Drwy ddefnyddio 234 o dyllau turio, mae ymchwiliwyr wedi canfod fod tymheredd y dŵr dan strydoedd Caerdydd yn tua 12 gradd
Dyw pympiau gwres o'r ddaear ddim mor gyffredin â phympiau gwres o'r awyr - a hynny yn rhannol oherwydd y gost sydd ynghlwm â'u gosod.
Ond mae Parc Erin - datblygiad tai newydd yn Nhonyrefail, Rhondda Cynon Taf - yn defnyddio system ariannu sy'n gweld trigolion yn talu swm er mwyn cysylltu â rhwydwaith o bympiau gwres, yn hytrach na gorfod talu am osod un ei hunain.
"Yn aml yng Nghymru mae cael y fath yma o gynlluniau i lwyddo yn ariannol yn gallu bod yn her, a tan nawr rydyn ni'n dueddol o weld mai datblygiadau llai o faint a llawer drytach oedd yn gallu fforddio defnyddio'r dechnoleg yma," meddai David Ward, Prif Weithredwr Tirion Homes.
"Dwi'n meddwl y byddwn ni'n dechrau gweld hyn yn digwydd ar hyd datblygiadau newydd yng Nghymru."
Y gost 'ddim yn disgyn ar y trethdalwr'
Mae cyfarwyddwr Kensa - y cwmni a luniodd y model ariannu ac a osododd y pympiau gwres ym Mharc Erin - yn credu y gallai'r hyn sy'n digwydd yno fod yn fodel i'w ddilyn yn ehangach.
"Dyw cost datgarboneiddio ddim yn disgyn ar y trethdalwr fel hyn, mae'r baich hwnnw ar fuddsoddwyr preifat - a dyna'r hyn ry'n ni angen ei weld os ydyn ni am gyrraedd ein targedau."
Ychwanegodd mai'r nod yn y pendraw yw gweithio yn yr un modd â chwmnïau ynni a dŵr.
"Os oes gennych chi foeler nwy dydych chi ddim yn gorfod talu am y peipiau yn eich stryd," ychwanegodd.
"Be hoffem ei weld yw rhwydwaith o dyllau turio a pheipiau yn eich strydoedd fel bod modd, pan rydych chi am symud i ffwrdd o'ch boeler traddodiadol, i chi allu prynu pwmp gwres o'r ddaear a'i gysylltu gyda'r rhwydwaith."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2024

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd19 Mehefin
