Ateb y Galw: Rebecca Harries

  • Cyhoeddwyd
rebecca

Yr actores Rebecca Harries sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi i Tony Bianchi ei henwebu yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar y soffa a chlywed fy nhad yn dweud wrtha'i bod chwaer fach 'da fi…o'n i'n ddwy a thri chwarter!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Rob Lowe.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Syrthio oddi ar y llwyfan, sha nôl, tra'n actio dyn 'da mwstash mewn cystadleuaeth Cwis Llyfrau'r Llyfrgell.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Fel arfer wi'n crio ar unrhywbeth, ond gwples i ddrama lwyfan am PTSD, sef 'Triptych', tua mis yn ôl, a oedd yn emosiynol tu hwnt i nghymeriad i, a fues i'n llefen bob nos ar lwyfan. Felly ers i ni gwpla….dim deigryn!!!!

Disgrifiad o’r llun,

Rebecca yn ei gwisg Sali Mali gyda'r cymeriad Jac y Jwc

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Paris. Lot o strydoedd bach a llefydd hynod ddiddorol….a choffi a gwin bendigedig!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Un o'n hoff nosweithi i oedd noson hwyr iawn, iawn ar ôl gorffen Panto yn Crymych jyst cyn Dolig dwy flynedd yn ôl. Noson llawn rhyddhad ein bod ni di llwyddo i greu Panto da a phoblogaidd, a llawn cwmni da a chanu bendigedig gyda Iwan John, Non Parry, Rhodri Efan, Miriam Isaac, Rolant Prys-Davies, Steffan Rhys-Williams ac Aled Richards. Da.

Oes gen ti datŵ? Os oes, o be? Os ddim, pam ddim?

Nagoes. Erioed wedi ise un…ond wi di bod yn gwylio rhaglen deledu or enw 'Tattoo Fixers' a wi'n hollol fascinated, er ddim cweit yn ddigon i gael un!!

Beth yw dy hoff lyfr?

'Wuthering Heights'.

Disgrifiad o’r llun,

Nofel gothic enwog Emily Bronte, 'Wuthering Heights'

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Sane…gyda'r pethe stici 'na odanyn nhw, achos mod i ddim yn gwisgo slipers.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Trainwreck 'da Amy Schumer. Eitha doniol!

Dy hoff albwm?

Mae'n dibynnu pa ddiwrnod yw hi!! Ond yr un sy di para hira'n ffefryn yw hen gasét brynes i flynyddoedd yn ôl, o gasgliad o ganeuon Nina Simone.

Wi di prynu cd o'r albwm ers 'ny… dorrodd y casét achos o'n i 'di chwarae e gymaint. Ma 'da fi lwyth o'i cd's hi ond hwn yw'r unig un (i fi wbod amdano) a fersiwn o "Brown Eyed Handsome Man" arno!

Disgrifiad o’r llun,

Y gantores Blues, Soul ac R&B enwog, Nina Simone

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Corgimwch gyda dail leim kafir i ddechrau; stecen 'rare', salad a sglodion; ac os oes lle, sorbet mafon!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio. Lot gwell cael sgwrs go iawn. ER ma tecstio'n gallu bod yn gyfleus….

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

William Shakespeare…i gael gweld pwy yn gwmws ysgrifennodd yr holl ddramau 'na!

Disgrifiad o’r llun,

William Shakespeare- yr awdur mewn gwirionedd?

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Rhys ap Trefor