Brithdir: Diarddel tair nyrs
- Cyhoeddwyd
Mae tair nyrs wedi eu gwahardd rhag gweithio mewn cartrefi gofal oherwydd safon isel eu gofal yng nghartref Brithdir, ym Margoed ger Caerffili.
Fe glywodd gwrandawiad o'r Cyngor Nyrsio a Bydwragedd yng Nghaerdydd fod yna fethiannau difrifol ac roedd hyn wedi arwain at farwolaethau.
Cafodd enwau Tembakazi Moyana, Daphne Richards a Rachel Tanta eu tynnu oddi ar gofrestr pobl sy'n gymwys i weithio mewn cartrefi gofal.
Fe wnaeth nyrs arall, Beverley Mock, dderbyn gorchymyn atal am 12 mis, a chafodd Susan Greening, pumed nyrs, rybudd.
Fe ddyfarnodd y Cyngor fod y dystiolaeth yn brawf o gamymddwyn mewn swydd.
Ym mis Mai fe wnaeth panel disgyblu brofi bod yna fethiannau mewn 86 o achosion.
Roedd yr achosion yn ymwneud â naw o gleifion rhwng 2005 a 2006.
Diffygion gofal
Roedd y methiannau yn cynnwys methu ag atal briwiau ac oedi wrth geisio cyngor ynglŷn â phiben fwydo oedd wedi ei heintio.
Ymhlith y methiannau eraill a gafodd eu rhestru oedd methu a chadw cofnodion digonol, a diffygion wrth lunio cynllun gofal i gleifion.
Yn achos Miss Moyana, dywedodd y panel fod ei gofal wedi arwain yn uniongyrchol at farwolaethau tri o'r cleifion. Roedd gofal Ms Tanta wedi cyfrannu at farwolaeth un o'r cleifion.
Daeth yr achos disgyblu ar ôl i'r cyngor benderfynu fod saith cyhuddiad o gamymddwyn wedi eu profi yn erbyn Christine Hayes, cyfarwyddwr nyrsio ar Fwrdd Iechyd Lleol Caerffili rhwng 2003 a 2006.
Roedd hi wedi parhau i symud pobl i gartref gofal Brithdir, er ei bod yn gwybod am y pryderon.
Cafodd ei gwahardd rhag gweithio yn y maes ym mis Ionawr.
Ymgyrch Jasmine oedd yr enw a roddwyd i ymchwiliad yr heddlu i'r achos, ymchwiliad gwerth £15 miliwn i gartrefi gofal dan ofal Puretruce Health Care a'u cyfarwyddwr Dr Prana Das yn nes Cymru.
Yn 2013 fe wnaeth Dr Das ddioddef anafiadau i'w ymenydd yn dilyn lladrad yn ei gartref.
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio bwrw 'mlaen gyda'r cyhuddiadau yn ei erbyn.