Cymru yn elwa o fagiau plastig

  • Cyhoeddwyd
bagiau plastigFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd siopwyr yn Lloegr yn gorfod talu am fagiau plastig cyn bo hir

Mae achosion da wedi derbyn tua £22 miliwn oherwydd y polisi i godi tâl am fagiau plastig mewn siopau.

Mae gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru yn awgrymu hefyd bod y defnydd o fagiau "untro" wedi lleihau 71% ers i'r drefn ddod i rym bedair blynedd yn ôl.

Yn ôl y Gwinidog Adnoddau Naturiol Carl Sargeant AC "Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am fagiau siopa untro a hynny er mwyn lleihau'r defnydd ohonynt a'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â nhw.

"Roeddwn eisiau i bobl Cymru ddod i arfer ag ailddefnyddio eu bagiau wrth siopa."

"A hithau bron yn bedair blynedd ers dechrau codi tâl yng Nghymru mae'n ymddangos bod arferion defnyddwyr yn newid ac mae hynny cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

"Mae hefyd yn codi swm sylweddol o arian ar gyfer achosion da."

Mae'r llywodraeth yn hawlio bod tri chwarter o ddefnyddwyr yn cefnogi'r tâl 5 ceiniog ar gyfer bagiau.

Ymhlith busnesau a masnachwyr mae 87% o'r rhai a holwyd yn dweud "fod codi tâl am fagiau siopa untro wedi cael effaith bositif neu niwtral ar eu busnes."

Fe gyhoeddwyd y gwaith ymchwil wrth i siopau mawr yn Lloegr baratoi i gyflwyno tâl am fagiau ym mis Hydref eleni.