Y daith i Euro 2016: Cyn-Lywydd yn cloriannu'r daith

  • Cyhoeddwyd
cymru
Disgrifiad o’r llun,

Am y tro cyntaf mewn 57 mlynedd, mae Cymru ar y ffordd i un o brif bencampwriaethau pêl-droed y byd

Wedi i'w dymor fel Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddod i ben, mae Trefor Lloyd Hughes wedi bod yn cloriannu taith y tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i'r genedl wireddu breuddwyd oedd unwaith mor bell i ffwrdd.

Fe ddechreuodd Trefor Lloyd Hughes ar ei gyfnod fel llywydd yn ystod cyfnod du yn hanes y gamp yng Nghymru, a hynny yn fuan iawn wedi marwolaeth y rheolwr Gary Speed.

Roedd yn olynu Phil Pritchard o'r Trallwng, oedd wedi bod yn dal y swydd am dair blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trefor Lloyd Hughes wrth ei fodd gyda llwyddiant diweddar tîm pêl-droed Cymru

"Pan ddechreuishi ar y swydd, roedd 'na rywbeth angen digwydd, roedd angen newid mawr yng nghyfansoddiad y gymdeithas, 'dani wedi llwyddo i wneud hynny, ond mae 'na lot mwy o waith i'w wneud."

Brwydr

"Roedd ganddo ni frwydr ar ein dwylo, roedd angen perswadio lot fawr o bobl fod angen i'r gymdeithas newid a datblygu, a dyna pam aetho ni ar daith o amgylch Cymru i siarad â'r cefnogwyr ar lawr gwlad.

"Dwi ddim yn gweld bai ar neb cofiwch, ond tydi pobl fel rheol ddim yn licio gweld pethau'n newid. Ond roedd yn rhaid newid y sefyllfa.

"Roeddwn i ar y panel a benododd Chris Coleman i'r swydd fel rheolwr, ac mi ddaeth ar gyfnod anodd ar ôl colli Gary Speed, mae beth mae Chris wedi ei wneud efo'r garfan yn wyrthiol, ond roedd yn adeiladu ar sylfaen a osodwyd gan Gary.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm yn dathlu gyda'r rheolwr, Chris Coleman yn Bosnia nos Sadwrn

"Mae'n anodd credu fod Cymru bellach yn wythfed yn netholion FIFA, ac ar eu ffordd i un o brif gystadlaeuthau pêl-droed y byd. O ran y detholion - mae'n beth digri ein bod yn ymfalchio yn hynny, oherwydd pan roedda ni'n rhif cant a rhywbeth, doedd neb isho gwybod am y tabl. Ond mae angen i ni fel gwlad fanteisio ar y llwyddiant yma.

Llwyddiant

"Mae'n braf nid yn unig fel swyddog pêl-droed, ond fel cefnogwr hefyd, i weld tîm yn llwyddo ac yn codi o safle isel i fod ar frig y gamp, ac mae'n braf gallu dweud rwan fy mod wedi cael cyfle i weld hynny'n digwydd ddwywaith yn fy mywyd, a hynny efo CPD Bodedern yn Ynys Môn, a rwan efo Cymru hefyd.

"Mae ganddo ni garfan dda iawn, a hogia proffesiynol iawn, sydd eisiau chwarae dros eu gwlad. Ers y cychwyn cyntaf 'dwi wedi dweud bod angen i ni ddod a hogia ifanc i mewn i chwarae efo'r hogia proffesiynol.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau pêl-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958

"Er hynny, 'da ni fel cymdeithas wedi gadael i Chris a Osian (Roberts) redeg y tîm yn eu ffordd eu hunain, ac heb ymyryd yn eu penderfyniadau.

"Un peth arwyddocaol mae Chris ac Osian wedi ei wneud ydi dod a'r hogia ifanc 'ma i mewn, a rhoi cyfle iddyn nhw.

"Ac fel mae'r ymgyrch wedi mynd yn ei blaen, mae chwaraewyr fel James Chester, Jazz Richards, Jordan Williams a Emyr Huws yn enghraifft o sut mae'r system bêl-droed yng Nghymru yn llwyddo.

'Ashley yn esiampl wych'

"Er ei bod gwaith tîm wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y garfan, mae'n rhaid i mi son am Gareth Bale ac Ashley Williams. Heb os Ashley yw un o gapteiniaid gorau Cymru erioed, ac mae wedi gallu arwain yr amddiffynwyr yn gwbl gadarn drwy'r ymgyrch, ac mae ei waith fel capten oddi ar y cae wedi bod wirioneddol yn wych.

"Er gwaethaf yr holl sylw a'r enwogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, chewch chi'm bachgen cleniach 'na haws gwneud hefo fo 'na Gareth Bale. Mae wedi bod yn esiampl gwych i'r hogia ifanc, ac wedi chwarae gydag angerdd dros ei wlad.

"Piti na fuasai rhai o chwaraewyr amlwg y gorffenol wedi dangos yr un teyrngarwch dros eu gwlad ag y gwnaeth Gareth, ond dyna ni, rwan sy'n bwysig.

"Dydw i heb sylwi tan rwan, pa mor bwysig oedd y gwaith yr yda ni fel cymdeithas wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwetha', a dwi'n wirioneddol falch fy mod wedi cael bod yn rhan o hynny. Ar un law, rydwi'n siomedig bod fy nhymor fel llywydd wedi dod i ben cyn i ni fynd i Ffrainc, ond ar y llaw arall mi fyddai yno bob cam o'r ffordd yn cefnogi'r hogia."

Fe fydd David Griffiths o Faesteg yn olynu Trefor Lloyd Hughes, ac mae'n dymuno'n dda iddo yn ei swydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teimlad o dîm wedi bod yn hanfodol i lwyddiant Cymru medd Trefor Lloyd Hughes