Mwy o honiadau hanesyddol yn erbyn cyn-bennaeth

  • Cyhoeddwyd
Malpas Church in Wales Junior and Infants SchoolFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru eisoes wedi datgelu bod honiadau wedi eu gwneud yn erbyn Mr Styler pan oedd yn gweithio ym Malpas ger Casnewydd

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod am fwy o honiadau o gamdrin rhyw hanesyddol yn erbyn cyn bennaeth ysgol o Gasnewydd.

Mae'r honiadau yn erbyn Jon Styler nawr yn ymwneud a thair ysgol - dwy yng Nghasnewydd ac un cyn-ysgol breifat yn Lloegr.

Mae'r honiadau diweddaraf wedi dod gan gyn ddisgybl Ysgol Bowbrook yn Sir Gaerwrangon, sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth Jon Styler ladd ei hun yn 2007.

Yn o adroddiadau roedd wedi gwadu'r honiadau yn gryf.

Honiadau newydd

Mae BBC Cymru eisoes wedi datgelu bod honiadau wedi eu gwneud yn erbyn Mr Styler pan oedd yn gweithio mewn ysgol Eglwys yng Nghymru ym Malpas ger Casnewydd yn y 70au.

Yn ddiweddarach fe ddaeth yn bennaeth ysgol breifat Bowbrook yn Hartlebury.

Nawr mae cyn ddisgybl yn yr ysgol, sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru ac oedd am aros yn ddi-enw, wedi dweud wrth BBC Cymru bod Jon Styler wedi cyflawni ymosodiad rhyw arno pan oedd yn 17.

Dywedodd bod yr ymosodiad wedi digwydd yn fflat Mr Styler.

Nid yw Ysgol Bowbrook yn bodoli bellach, a doedd BBC Cymru methu a chysylltu gydag unrhyw un oedd yn rheoli'r ysgol.

Mae ysgol wahanol - heb unrhyw gysylltiad i Bowbrook na Jon Styler - nawr ar y safle.

Hefyd, does dim cysylltiad gydag ysgol arall, Ysgol Bowbrook House.

Gwadu honiadau

Mae BBC Cymru yn deall bod person arall wedi cysylltu gyda chyfreithwyr yn honni ei fod wedi cael ei gamdrin gan Jon Styler pan oedd yn gweithio yn Ysgol Gynradd Brynglas rhwng 1968 a 1971.

Nid yw Ysgol Brynglas yn bodoli bellach, ac nid oedd BBC Cymru yn gallu cysylltu gydag unrhyw un oedd yn rheoli'r ysgol ar y pryd.

Fe wnaeth Jon Styler ladd ei hun yn 2007. Mae adroddiadau ei fod wedi cael ei arestio a'i ryddhau ar fechniaeth dros honiadau hanesyddol.

Mae Cymdeithas yr Ysgolion Annibynnol yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddiogelwch plant i gysylltu gyda'r heddlu.

Dywedodd Cyngor Casnewydd nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw, gan fod y cais am iawndal wedi ei wneud ynghylch y mater.

Mae Heddlu Gwent yn dweud nad oes ymchwiliad i Jon Styler ar hyn o bryd.