Enw newydd i Stadiwm y Mileniwm
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cytundeb noddi newydd sy'n golygu newid enw Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Yr enw newydd fydd Stadiwm Principality yn dilyn y cytundeb gyda'r gymdeithas adeiladu sydd â'i bencadlys yn y brifddinas.
Fe fydd y cytundeb yn para am ddeng mlynedd, a bydd yr enw newydd yn dod i rym yn Ionawr 2016.
O ganlyniad i'r bartneriaeth bydd aelodau, cwsmeriaid a staff y Principality yn cael cynnig cyfle cynnar i brynu tocynnau a phrofiadau eraill unigryw yng nghartref rygbi Cymru.
Stadiwm y Mileniwm fu'r enw arno ers yr agoriad swyddogol ar 26 Mehefin 1999. Bydd y gêm gyntaf yn Stadiwm Principality rhwng Cymru a'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 13 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies: "Mae sicrhau partner newydd gan sefydliad uchel ei barch yng Nghymru yn gam pwysig ymlaen i ni.
"Mae gan y Stadiwm enw da drwy'r byd ac yn symbol rhyngwladol ac mae'n briodol bod gan un o'r prif bartneriaid â chysylltiad cryfach fyth gyda rygbi Cymru."
Meddai Graham Yorston, prif weithredwr y Principality: "Fel busnes sy'n eiddo i'n haelodau rydym wedi ymrwymo i'r cymunedau lle'r ydym yn gweithredu.
"Pwrpas y bartneriaeth yma yw buddsoddi yn natblygiad rygbi ar bob lefel, darparu cyfleoedd i bobl drwy chwaraeon a chreu profiadau digymar i'n haelodau a'n cymunedau.