Cynllun Castell Aberteifi wedi colli ei ffordd?
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi cynnal cyfarfod blynyddol nos Iau wrth i rai honni bod y cynllun yng Nghastell Aberteifi wedi colli ei ffordd.
Daeth gwaith adfer y castell i ben ar gost o £12m yn sgil grant o £6.2m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £4.3m gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.
Ond mae hi wedi bod yn Awst stormus y tu fewn i furiau Castell Aberteifi.
Fe adawodd y cyfarwyddwr, Cris Tomos, ei swydd ar ôl iddo ddweud bod "anghydweld" wedi bod gydag ymddiriedolwyr a honiadau eu bod nhw'n ymyrryd yn sut yr oedd y castell yn cael ei redeg.
Mr Tomos yw'r ail gyfarwyddwr i adael o fewn tair blynedd.
Fe ymddiswyddodd Steffan Crosby yn 2012 ar ôl ychydig fisoedd yn y swydd.
Mae BBC Cymru yn deall bod aelod arall o'r staff wedi ymddiswyddo'r wythnos ddiwethaf.
Cafodd Ymddiriedolaeth Cadwgan ei beirniadu'n hallt ar ôl i grŵp gwerin o Loegr gael gwahoddiad i fod yn brif berfformwyr cyngerdd agoriadol swyddogol y castell ym mis Gorffennaf.
Roedd yr ymddiriedolaeth wedi dweud bod yna "raglen ardderchog o ddigwyddiadau" wedi ei threfnu yn y castell dros yr haf fyddai'n rhoi llwyfan i "berfformiadau cenedlaethol" a "thalent lleol."
Ers agor ei ddrysau i'r cyhoedd ym mis Ebrill mae'r castell wedi denu 20,000 o ymwelwyr.
500
Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod 500 wedi prynu tocynnau blynyddol, a bod 100 o deithiau tywys wedi bod.
Ychwanegodd y llefarydd fod y bwyty hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan werthu 98 o brydiau'r dydd ar gyfartaledd.
Ond mae cyn aelodau o'r ymddiriedolwyr wedi siarad gyda BBC Cymru am eu pryderon ynglŷn â'r cynllun.
Fe ymddiswyddodd Jean Jones, gweddw'r diweddar Brifardd Archdderwydd Dic Jones, yn 2014.
Angen 'symud ymlaen'
"Mae rhai pethau wedi digwydd yn y castell ... fe gethon nhw gyngerdd Gymraeg arbennig ond dwi'n meddwl bod honna wedi ei threfnu i dawelu ein siort ni.
"Ond mae eisiau gweledigaeth fwy eang i gael pethau fel hyn yn barhaus 'na a sai'n meddwl bod e gyda'r bobl sydd 'na nawr...
"Maen nhw wedi gwneud strôcs i ddod â'r castell hyd at fan hyn ond mae eisiau symud 'mla'n nawr a dwi i ddim yn meddwl bod yr un bobl yn mynd i allu gwneud hynny."
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i'r ymddiriedolwyr am ymateb i'r feirniadaeth.
Un arall sydd wedi gadael yr ymddiriedolaeth ydy Dr Richard Crawfords sy'n poeni nad oes digon o bwyslais ar hanes a threftadaeth yn y castell.
"Maen nhw wedi cael cymaint o arian ar gefn y dreftadaeth ... dyw'r balans ddim yn dda," meddai.
"O fy mhrofiad i, ar adegau roedd yr agwedd at dreftadaeth yn wael iawn ... fe glywais i un aelod o'r Ymddiriedolaeth yn dweud: 'I'm sick and tired of hearing about the Eisteddfod ..'."
Y gred yw taw Castell Aberteifi oedd lleoliad yr Eisteddfod gyntaf i gael ei chofnodi, dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn 1176.