Nawdd i bymtheg cylchgrawn Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
cylchgronau Cymraeg

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi pa gylchgronau Cymraeg fydd yn derbyn cefnogaeth ariannol dros gyfnod y drwydded nesaf o fis Ebrill 2016.

Pymtheg cylchgrawn fydd yn derbyn arian gyda'r symiau'n amrywio o £80,000 y flwyddyn (Barn) i £1,500 (Fferm a Thyddyn).

Daeth penderfyniad y panel fu'n dewis a dethol y cylchgronau sy'n elwa yn dilyn arolwg o'r maes cylchgronau Cymraeg.

Dywedodd cadeirydd y panel, yr Athro Gerwyn Williams o Brifysgol Bangor: "Rydym fel Panel yn hynod o falch o ganlyniad y broses a chredwn fod nawdd y Cyngor Llyfrau wedi llwyddo i gefnogi ystod eang ac amrywiol o gyhoeddiadau.

"Mewn cyfnod anodd o ran cyllido a gwerthiant cylchgronau'n gyffredinol mae'n braf gweld y diwydiant yn ymateb gyda syniadau newydd sbon a pharodrwydd i ymateb i her y byd digidol."

'Portffolio eang'

Bydd tri chyhoeddiad gan gwmni Golwg yn derbyn cyfanswm o £121,000 y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf, sef Golwg (£73,000), WCW (£30,000) a Lingo (£18,000).

Cylchgrawn Barn sy'n derbyn y swm mwyaf o £80,000 y flwyddyn tra bod cynyrchiadau fel CIP (£27,500) a Barddas (£24,000) hefyd yn derbyn arian sylweddol.

"Mae cael portffolio eang o gylchgronau yn sylfaenol i gynnal diwylliant hyfyw ac yn gyfraniad uniongyrchol i ledaenu defnydd o'r iaith," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

"Mae'r cylchgronau hefyd yn cynnig cyfle i ymdrin â phynciau amrywiol drwy'r Gymraeg ac i hybu trafodaeth am faterion y dydd."

Pwysleisiodd y Cyngor Llyfrau bod dau syniad newydd sbon wedi cael nawdd, sef Melin - menter ddigidol i grynhâi a dosbarthu newyddion cyfoes sy'n derbyn £5,000 y flwyddyn - a Mellten, sy'n gomic i blant a phobl ifanc fydd yn cael ei greu gan y cartwnydd Huw Aaron.

Bydd cyfnod y trwyddedau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill, 2016.

Dyma'r 15 cyhoeddiad fydd yn derbyn arian dros y tair blynedd nesaf:

  • Barn - £80,000 y flwyddyn

  • Golwg - £73,000

  • WCW - £30,000

  • CIP - £27,500

  • Barddas - £24,000

  • Lingo - £18,000

  • Y Cymro - £18,000

  • Mellten - £14,000

  • Y Wawr - £10,000

  • Y Selar - £10,000

  • Llafar Gwlad - £7,000

  • Y Traethodydd - £6,000

  • Melin - £5,000

  • Cristion - £4,800

  • Fferm a Thyddyn - £1,500