Be' ddigwyddodd i Owain Glyndŵr?
- Cyhoeddwyd
Wrth i ni nodi 600 mlwyddiant marwolaeth Owain Glyndŵr mae'r hanesydd blaenllaw, Yr Athro Gruffydd Aled Williams, wedi cyhoeddi cyfrol - 'Dyddiau olaf Owain Glyndŵr' (Y Lolfa) sydd yn ceisio taflu goleuni newydd ar farwolaeth y gwrthryfelwr Cymreig. Bu'n trafod rhai o'i gasgliadau gyda Cymru Fyw:
Dirgelwch mawr
Fe dybiodd rhai eisoes mai ar naill ai'r 20fed neu'r 21ain o Fedi 1415 y bu farw Owain Glyndŵr. Ond yn y gyfrol, rydw i yn mynd gam ymhellach gan nodi arwyddocâd llawysgrif o'r bymthegfed ganrif y dangosir bod iddi gysylltiad â theuluoedd chwiorydd Owain.
Mae'n cofnodi Dygwyl Mathau (sef 21 Medi) 1415 fel dydd ei farw: dyna'r dyddiad yng nghof y teulu yn ôl pob tebyg.
Mae blynyddoedd olaf Owain yn un o ddirgelion mawr hanes Cymru. Ar ôl i'r Saeson ailgipio castell Harlech yn 1409 fe giliodd o'r golwg.
Dyma flynyddoedd pan oedd yn ffoadur a phris ar ei ben, efallai'n symud o loches i loches ar drugaredd cefnogwyr. Yn ôl 'The History of Owen Glendower' a briodolwyd i Robert Vaughan o'r Hengwrt (m. 1667) a'i gyfaill Dr Thomas Ellis, Rheithor Dolgellau (m. 1673) yr oedd traddodiad yr adeg honno iddo farw yng nghartrefi'r naill neu'r llall o'i ddwy ferch briod yn Swydd Henffordd.
Roedd Alys yn wraig i Syr John Skydmore (Scudamore), a daeth Sioned, wedi marw ei gŵr cyntaf Syr John Croft, yn wraig i Syr Richard Monington.
Ble cafodd Glyndŵr ei gladdu?
Mae'r traddodiadau am gladdu Owain yn gymysglyd iawn ac efallai nad yw hynny'n syndod. Adroddodd y croniclwr cyfoes Adda o Fryn Buga iddo gael ei gladdu'n ddirgel liw nos a'i ddatgladdu wedyn i'w arbed rhag ei elynion ar ôl iddyn nhw ganfod ei fedd gwreiddiol.
Mae'n eglur fod traddodiad yn bodoli iddo gael ei gladdu mewn lle o'r enw Monnington a bod a wnelo'r teulu Skydmore â hyn. Mae dau le o'r enw Monnington yn agos i'w gilydd yn Swydd Henffordd, sef Monnington-on-Wye a Monnington Straddle.
Gellir diystyru Monnington-on-Wye (er i rywrai gamdybio iddynt ganfod carreg fedd a sgerbwd Owain yno yn 1680): perthynai'r Monnington hwn i'r teulu Audley, gelynion Glyndŵr. Ond mae Monnington Straddle ger Vowchurch yn y Dyffryn Aur - maenor a ddelid unwaith gan Syr John Skydmore - yn haeddu sylw.
Cred rhai i Owain gael ei gladdu ar safle tomen ger ffermdy Monnington Court yn Monnington Straddle, ond mae hynny'n annhebygol.
Awgryma'r dystiolaeth archaeolegol mai safle seciwlar - lle safai'r Monnington Court gwreiddiol efallai - yw'r domen: fel Cristion Catholig byddai Owain wedi cael ei gladdu mewn tir cysegredig.
Led cae o'r domen ym Monnington Court mae tŷ o'r enw Chapel House; mae tystiolaeth sicr o'r oesoedd canol mai dyma safle capel, sef is-eglwys, a berthynai, mae'n debyg, i Abaty Dore ychydig filltiroedd i ffwrdd. Os claddwyd Owain o gwbl ym Monnington Straddle dyma'r safle mwyaf tebygol.
Posibiladau eraill
Ond wrth ymchwilio fe ddeuais i'r casgliad bod yna bosibiliadau eraill. Cyffrous oedd darganfod nodyn yn un o lawysgrifau Robert Vaughan o'r Hengwrt yn dweud i Owain gael ei gladdu yn 'Cappel Kimbell' yn Swydd Henffordd, gwybodaeth a gafodd Vaughan, meddai, gan Edmwnd Prys (1543/4-1623), awdur enwog y 'Salmau Cân'. 'Capel Kimbell' oedd eglwys ganoloesol Kimbolton, pentref bychan y tu allan i Lanllieni (Leominster).
Fe fu Prys yn Rheithor Llwydlo, tua saith milltir o Kimbolton, yn y 1570au, ac efallai iddo glywed am draddodiad lleol ynghylch claddu Glyndŵr yno.
Yn arwyddocaol iawn nid oedd Kimbolton ond ryw saith neu wyth milltir o Lawton's Hope a La Verne, cartrefi dwy ferch Glyndŵr (ceir tystiolaeth bendant fod Syr John Skydmore ac Alys yn trigo yn La Verne ger Bodenham yn ystod cyfnod y gwrthryfel).
Ond tybed nad yng Nghymru y claddwyd Owain? Fe awgrymwyd nifer o safleoedd posib yno, fel Eglwys Corwen, Eglwys Rhuthun, Abaty Glyn-y-groes, Cadeirlan Bangor, Eglwys Llandunwyd, Eglwys Llanwrda, Cas-blaidd yn Sir Benfro, a Charn Owain ar Bumlumon.
Rwyf fi o'r farn fod pob un o'r rhain yn annhebygol. Ond fe dynnais sylw at gerdd gan Robin Ddu, bardd o'r bymthegfed ganrif, sy'n awgrymu y gall fod Owain wedi ei gladdu ym Maelienydd, y wlad yn cyfateb i ogledd yr hen Sir Faesyfed.
Prif eglwys Maelienydd oedd Abaty'r Cwm Hir. Mae'n werth cofio nad nepell i ffwrdd, ym mhlwyf Saint Harmon yng nghwmwd Gwerthrynion, yr oedd cartref Gwenllian, merch anghyfreithlon i Owain yr hanai ei mam o Dal-y-bont, Ceredigion.
A fu'r ferch hon hithau yn llochesu Owain, ac a yw'n bosib mai yn naear y Cwm Hir y rhoddwyd Owain, fel Llywelyn ap Gruffudd o'i flaen, i orffwys?
Er fy mod yn y gyfrol yn awgrymu lleoliadau newydd sy'n haeddu ystyriaeth ddifrifol, fe erys diwedd Glyndŵr yn ddirgelwch na ellir fyth ei ddatrys yn derfynol.