Heno, heno, hen blant bach?
- Cyhoeddwyd
Mae angen i blant a phobl ifanc ddiffodd gwefannau cymdeithasol er mwyn cael noson dda o gwsg, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae adroddiad Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi canfod bod un o bob pump yn eu harddegau yn dweud eu bod "bron bob amser" yn deffro yn ystod y nos i edrych ar negeseuon neu bostio negeseuon.
Yn ogystal, mae'r adroddiad yn honni bod mwy na thraean o bobl ifanc rhwng 12 a 15 mlwydd oed yn dweud eu bod yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos.
Yn ôl yr adroddiad, "mae hyn yn cael sgil effeithiau ar flinder y bobl ifanc yn yr ysgol: ymhlith rhai plant, mae'n bosibl ei fod hyd yn oed yn gwneud iddynt deimlo'n fwy blinedig na phe baent yn mynd i'r gwely'n hwyr".
Daeth y gwaith ymchwil i'r casgliad y gallai defnyddio gwefannau fel Facebook neu Twitter yn ystod y nos, gan darfu ar gwsg, "effeithio ar hapusrwydd cyffredinol disgyblion hefyd. Mae'r rheiny sy'n deffro i ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn nodi lefelau is o les".
Y FFIGYRAU
Pan ofynnwyd i'r bobl ifanc pa mor aml yr oedden nhw'n deffro yn y nos i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, dywedodd 22% o ddisgyblion blwyddyn wyth eu bod yn gwneud hynny "bron bob amser", gyda 23% o'r rhai ym mlwyddyn 10 yn rhoi'r un ateb.
Dywedodd 14% ymhellach o'r grŵp iau, a 15% o'r grŵp hŷn, eu bod yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos.
Gofynnwyd hefyd pa mor aml yr oedd y disgyblion yn teimlo'n flinedig yn yr ysgol. O dros hanner y rhai a ddywedodd eu bod "bron bob amser" yn deffro i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol eu bod hefyd "bron bob amser" yn mynd i'r ysgol yn teimlo'n flinedig.
Roedd hyn yn llawer uwch na'r ganran gyffredinol, a ddywedodd eu bod "bron bob amser" yn teimlo'n flinedig yn yr ysgol - sef 32% o'r disgyblion blwyddyn wyth a 39% o'r disgyblion blwyddyn 10.
Yn ôl yr astudiaeth, roedd cyfran sylweddol o ddisgyblion yn dweud eu bod yn mynd i'r gwely'n hwyr iawn: dywedodd 17% o ddisgyblion blwyddyn wyth a 28% o ddisgyblion blwyddyn 10 eu bod yn mynd i gysgu am hanner nos neu'n hwyrach ar noson ysgol.
Ymhlith y rhain, roedd 6% o'r grŵp iau ac 8% o'r grŵp hŷn yn honni eu bod yn mynd i'r gwely ar ôl un o'r gloch y bore.
Fodd bynnag, yn achos y grŵp iau, fe wnaeth yr astudiaeth ganfod bod yr amser a dreulir yn y gwely'n cael llai o effaith ar flinder y plentyn yn yr ysgol na deffro yn ystod y nos i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Nid dyma'r achos ymhlith y grŵp hŷn. Fodd bynnag, hyd yn oed ymhlith y grŵp hwn, roedd y rhai a oedd yn dweud eu bod yn deffro i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob nos yn dal ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi blino'n gyson na'r rheiny a oedd byth yn gwneud hynny.