Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: 100 niwrnod o newid?
- Cyhoeddwyd
100 niwrnod yn ôl fe gafodd bwrdd iechyd mwyaf Cymru ei osod dan fesurau arbennig, gweithred oedd yn gwbl ddigynsail. Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, sy'n ystyried yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny.
Dyw Llywodraeth Cymru erioed wedi gosod bwrdd iechyd cyfan dan y fath oruchwyliaeth.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford roedd y penderfyniad yn adlewyrchu "pryderon difrifol sydd heb eu datrys ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a chynnydd yn y Bwrdd Iechyd dros gyfnod".
Roedd y bwrdd, sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd i bron 700,000 o bobl, dan y lach ers tro a hynny oherwydd cyfres o sgandalau. Ar ôl cael cyngor gan nifer o swyddogion daeth y Gweinidog Iechyd i'r casgliad, am wn i, mai digon oedd digon.
Y sgandal a'r methiant mwyaf amlwg oedd casgliadau adroddiad annibynnol gafodd ei gyhoeddi ddiwedd mis Mai wnaeth amlygu methiannau difrifol yng ngofal cleifion iechyd meddwl yn ward Tawel Fan Ysbyty Glan Clwyd - a hynny yn y cyfnod cyn i'r ward gael ei gau yn Rhagfyr 2013.
Dywedodd yr adroddiad bod rhai cleifion oedrannus a dementia wedi cael eu trin fel "anifeiliaid" gydag ambell un wedi cael eu gadael heb ddillad na goruchwyliaeth.
"Cam-drin sefydliadol" oedd yr hyn digwyddodd yn ôl awdur yr adroddiad, Donna Ockenden.
Ond un sgandal ymysg nifer oedd helynt Tawel Fan - roedd y bwrdd wedi ei feirniadu'n gyson dros y blynyddoedd, gan gynnwys am gamreoli, diffyg rheolaeth ariannol a methiannau o ran mynd i'r afael â heintiau mewn ysbytai yn 2013.
Er i rai uwchbenaethiaid gamu o'r neilltu, yn cynnwys y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr ar y pryd, parhau wnaeth y problemau a mis yn ddiweddarach, dywedwodd uwch feddygon eu bod nhw wedi colli hyder yn y bwrdd.
Gwasanaethau mamolaeth
Yn fwy diweddar, Chwefror eleni, cododd nyth cacwn pan gyhoeddodd y bwrdd gynllun i israddio gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd dros dro.
Fe gafodd y penderfyniad ei herio yn y llysoedd ac ildiodd penaethiaid yn ddiweddarach gan ddewis cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Yn y cyfamser amlygodd adroddiad eleni broblemau pellgyrhaeddol yn y ffordd roedd gwasnaethau meddygon teulu, y tu hwnt i oriau arferol, yn cael eu rhedeg.
Er y problemau, mae rhai wedi dadlau bod bwrdd iechyd y gogledd wedi bod yn rhy fawr i'w reoli ers y dechrau.
Yr hyn sy'n sicr oedd erbyn iddo gael ei osod mewn mesurau arbennig, roedd wedi colli hyder trwch sylweddol o drigolion.
Gadawodd y Prif Weithredwr, yr Athro Trevor Purt ei swydd a gofynnodd y Gweinidog Iechyd i Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y Gwasaneth Iechyd yng Nghymru, gamu i'r adwy, er mwyn gweithredu gwelliannau penodol mewn sawl maes.
Hefyd, dyweddodd Llywodraeth Cymru bod rhaid i'r bwrdd atgyweirio'r berthynas gyda'r cyhoedd.
Gwelliannau
Erbyn hyn mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw wedi cyflawni'r canlynol:
Ailgysylltu gyda'r cyhoedd a staff drwy gynnal cyfarfodydd, ac adolygu'r broses gwyno.
Iechyd Meddwl: Gwell oruchwyliaeth i staff dan hyfforddiant a sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio yn fwy diogel.
Cyflwyno mesurau i wella gwasanaethau y tu allan i oriau arferol, a bydd adolygiad pellach ym mis Medi.
Adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd llywodraethu a hyfforddiant ychwanegol i aelodau. Mae cyfarwyddwyr penodol wedi eu clustnodi i oruchwylio prosiectau cyfalaf.
Ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau mamolaeth ac obstetreg, gyda risg o fewn y gwasanaethau yn cael ei fonitro yn barhaol.
27 o benodiadau wedi ymgyrch recriwtio bydwragedd.
'Cefnogi eu gwaith'
Fis diwethaf, mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, amlinellodd Simon Dean beth oedd ei brif flaenoriaethau.
"Mae gennym filoedd o staff ac mae angen iddynt deimlo'n falch, fy nod i yw eu cefnogi wrth wneud eu gwaith," meddai.
"Mae'n anodd iawn gwneud hynny pan fydd pobl yn credu eu bod nhw i gyd yn cael eu beirniadu.
"Dylem bwysleisio mai'r sefydliad, hynny yw y bwrdd iechyd, gafodd ei roi mewn mesurau arbennig ac nid condemniad o safonau'r gwasnaeth iechyd yn gyffredinol nac ymroddiad a gwaith caled y staff oedd."
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu statws y bwrdd iechyd yn ffurfiol ym mis Hydref, bedwar mis ar ôl cyflwyno mesurau arbennig, er mai ychydig iawn sy'n disgwyl i'r drefn newid cyn bo hir.
Yn wir, mae rhai o gynlluniau'r bwrdd iechyd i wella ymhellach yn ymestyn tan y Nadolig a thu hwnt.
Ond y llinyn mesur pwysica' fydd ymateb y cyhoedd i'r ymgynghoriad ar wasanaethau mamolaeth.
Mae rhai ymgyrchwyr eisioes yn honni bod y broses yn gyfystyr â "blwch ticio", er bod penaethiaid yn mynnu y byddan nhw'n gwrando o ddifri'.
Os gallant argyhoeddi pobl ynglŷn â hynny - pa bynnag mor ddadleuol fydd y canlyniad yn y pendraw - yna byddai hynny o leiaf yn arwydd fod pethe'n newid er gwell.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2015