Cwpan Rygbi'r Byd: Cwmni trên yn ymddiheuro
- Cyhoeddwyd

Roedd teithwyr wedi cwyno fod gormod o bobl yng ngorsaf Parkway ym Mryste
Wrth i Iwerddon herio Canada yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, mae Cwmni First Great Western wedi ymddiheuro am oedi ar wasanaethau.
Fe ddywedodd y cwmni nad oedden nhw wedi sylweddoli faint o bobl fyddai'n defnyddio'r trenau i geisio cyrraedd Caerdydd ar gyfer y gêm.
Mae nhw'n cydnabod bod eu trenau rhwng Paddington a Chaerdydd yn rhy llawn.
Roedd y cwmni wedi trefnu 8,000 o seddi ychwanegol ar wasanaethau, ond roedd 1,500 yn fwy na'r disgwyl am deithio.
Ychwanegodd llefarydd ar ran FGW y bydd rhagor o drafod cyn gweddill gemau'r bencampwriaeth, ond bod "terfyn ar beth allwn ni ei ddarparu heb effeithio ar gwsmeriaid eraill".
Hon yw'r gêm gyntaf y bencampwriaeth i gael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm.
Bydd Cymru yn herio Uruguay yfory.

Roedd 'na fôr o wyrdd a choch ar strydoedd Caerdydd wrth i Iwerddon herio Canada


Roedd ardal gefnogwyr Parc yr Arfau dan ei sang bnawn Sadwrn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2015