O Graceland i Borthcawl

  • Cyhoeddwyd
Elvis yn Porthcawl

Mae 'na dros 4,000 o filltiroedd rhwng Porthcawl a Graceland, cartre'r diweddar Elvis Presley yn Memphis, Tennessee. Ond ar benwythnos 26-27 Medi, y dref glan môr ym Mro Morgannwg fydd canolbwynt un o wyliau Elvis mwyaf Ewrop. Gallwch weld lluniau Gŵyl Elvis 2014 yma.

Bydd cannoedd o bobl wedi eu gwisgo fel y canwr yn dod ynghyd gydag ambell un dewr yn dynwared eu harwr yn canu. Ymhlith yr Elvisiaid eleni bydd 'na wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C. Yn ôl y dyn tywydd Chris Jones, mae'r rhagolygon yn dda ar gyfer yr Ŵyl:

line

"Bach o hwyl"

Yn syml iawn, bach o hwyl yw'r ŵyl. Cyfle i chwerthin a chanu a cheisio dynwared a byw fel Elvis am benwythnos. Ond mae 'na bobl o bedwar ben byd yn dod i Borthcawl bob blwyddyn ac mae'r ŵyl wedi tyfu'n enfawr ers y dyddiau cynnar, felly ma' hynny yn dweud rhywbeth am boblogrwydd a dylanwad Elvis fel canwr ac fel eicon.

Dianc o fywyd go iawn am benwythnos ac ail fyw cyfnod unigryw ag arloesol……a'r cyfan yng Nghymru. Ac eleni, am y tro cyntaf, mae 'na gyngerdd arbennig Cymreig yn Theatr y Pafiliwn.

Wrth dyfu lan yn Aberaeron, o'dd mam a dad yn chwarae recordiau trwy'r amser, gan gynnwys recordiau Elvis. Dyna pryd nes i ddechrau gwrando go iawn ac yn gwerthfawrogi ei gerddoriaeth a'i ddelwedd, ac yna yn hwyrach ei ffilmiau. Felly ers yn gynnar iawn mae Elvis wedi bod yn rhan o'm mywyd i.

Chris Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Cymylau duon dros y Preseli!" Chris yn dynwared ei arwr

Elvis a fi

O ran y gerddoriaeth, mae'n well i gyfuniad o'r cyfnod cynnar, sef y 50au hwyr a'r 60au cynnar, a chyfnod y come back special yn 1968. Mae 'na ambell un o'i ffilmiau wedi aros yn y cof a rhai caneuon o'r cyfnod hwyrach, ond dwi ddim gymaint â hynny o ffan o'r blynyddoedd Las Vegas.

Yn anffodus, dwi ddim wedi cael y cyfle hyd yma i ymweld a'i gartre yn Graceland . Rwy'n gobeithio mynd rhyw ddiwrnod wrth gwrs, ac i lefydd fel Nashville hefyd, gan fod cerddoriaeth a dylanwad Elvis yn gryf iawn yno. Y peryg yw mai atyniad twristiaeth, corfforaethol yw Graceland erbyn hyn!

Dwi'n meddwl fod 'na stori anhygoel yn perthyn i Elvis. Ei wreiddiau tlawd, yn dringo i fod yn eicon, ac yn syrthio oddi ar yr ysgol eto tua'r diwedd. Rhyw fath o stori glasurol gall nifer uniaethu a hi.

Ac wrth gwrs, ei gerddoriaeth - ysgafn, catchy, gwanhaol, efo'i lais unigryw.

Dynwared 'y Brenin'

Dwi wedi canu karaoke nifer o weithiau dros y blynyddoedd ac yn ffansio fy hun fel rhyw ddynwaredwr, ond tro yma, yng nghystadleuaeth dynwaredwyr Elvis ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl, mi fyddai yn gorfod bod o ddifri, a gwisgo a swnio gymaint â phosib fel y dyn ei hun.

Mae'n gystadleuaeth serious! Mae gen i gyfuniad o nerfau, methu credu mod i yn mynd i ganu ar lwyfan fel Elvis, a rhyw edrych ymlaen at gael gwireddu breuddwyd go iawn… o'r diwedd!

Gŵyl Elvis 2014: "Mae'n braf bod nôl yma yn Las Vegas.. erm, sori Porthcawl!"
Disgrifiad o’r llun,

Gŵyl Elvis 2014: "Mae'n braf bod nôl yma yn Las Vegas.. erm, sori, Porthcawl!"

Mae'n gallu bod yn hobi drud, yn enwedig wrth brynu'r gwisgoedd di-ri a theithio i'r cyngherddau a'r cystadlaethau. Llogi gwisg syml 'dwi di 'neud ar gyfer yr ŵyl - rhyw £25 i gyd (Cardi ydw i wedi'r cyfan!). Mater arall yw cost teithio i Graceland!!

'Se'n i' wrth fy modd yn cyflwyno'r tywydd ar S4C yn fy ngwisg Elvis. Ond dwi'n meddwl base ni'n cael stŵr gan S4C a gan rhai o'r gwylwyr! Rhywbeth difrifol yw'r tywydd i ni'r Cymry!!

Gallwch glywed hanes Chris yn yr Ŵyl yn y gyfres Straeon Bob Lliw ar BBC Radio Cymru

"Mae hi wedi bod yn bleser!"
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi wedi bod yn bleser!"