Pobol y Cwm ac 'Aussie Rules'
- Cyhoeddwyd
Sut y daeth un o drigolion Cwmderi i fod yn gyfrifol am dylino cefnau rhai o chwaraewyr 'Aussie Rules' gorau Awstralia? Cyn symud i ben draw'r byd mi fuodd Roz Richards o Gwm Rhymni hefyd yn rhoi cyngor ffitrwydd i wylwyr 'Wedi 3' a 'Prynhawn Da' ar S4C.
Mae hi'n trafod ei gyrfa newydd gyda thîm Western Bulldogs yn yr AFL (Cynghrair Aussie Rules) gyda Cymru Fyw.
Mae gweithio gyda thîm 'Aussie Rules' blaenllaw yn newid mawr o actio yn Pobol y Cwm...
Ydy. Nes i ddechre busnes ffitrwydd personol tra'n gweithio fel actores. Rwy'n arbenigo mewn tylino chwaraeon (sport massage) ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd ges i gan glybiau rygbi'r Dreigiau, Gleision Caerdydd a thîm saith bob ochr Cymru.
Pam wnes di benderfynu mai gweithio yn y byd chwaraeon yn Awstralia fyddai orau i ti?
Es i deithio am gyfnod i dde-ddwyrain Asia, ac wedi i mi ddod 'nôl roeddwn yn teimlo'n wahanol, fel fy mod eisiau sialens newydd.
'Nes i ddewis Awstralia oherwydd y tywydd, ac am bod cymaint o chwaraeon gwahanol yno. Y prif reswm oedd i gael canolbwyntio ar fy ngyrfa athletau. 'Nes i edrych ar Google Maps i weld pa ddinas, Melbourne neu Sydney, oedd gyda'r nifer fwyaf o draciau rhedeg - a Melbourne enillodd!
Hefyd, mi roedd gen i ddiddordeb mewn gweithio i'r Melbourne Rebels, y tîm Rygbi'r Undeb proffesiynol.
Oedd hi'n anodd dod i ddeall 'Aussie Rules'?
Y job gyntaf i mi yn Melbourne o'dd gyda St. Kilda, a do'dd dim syniad 'da fi am AFL. Doedd gen i ddim syniad pa mor FAWR o'dd y gêm yn Melbourne.
Roedd y profiadau gyda St. Kilda yn wych, i fod yn rhan o glwb proffesiynol yn Awstralia a chydweithio gyda'r tîm meddygol.
'Nes i ddysgu cymaint o sgiliau newydd yn fy nhymor cyntaf gyda'r clwb gan weithio yn agos gyda'r physiotherapists - ma' safon meddygaeth chwaraeon yma yn arbennig.
Roeddet ti'n rhan o'r tîm fu'n paratoi'r Melbourne Rebels ar gyfer herio'r Llewod yn 2013. Mae'n siŵr bod hwnna yn brofiad rhyfedd?
O'dd! Rwy'n cofio ar ddiwedd y gêm cwrdd â bois Cymru oedd yn teithio 'da'r Llewod - Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jamie Roberts, Sam Warburton ac eraill. Ro'n nhw wedi eu drysu rhywfaint - "Roz…what are you doing here?"
Roedd e'n braf i'w gweld nhw, gan fy mod i wedi gweithio gyda nhw yn fy nghyfnod 'da'r Gleision. Ro'dd gen i deimladau cymysg yn ystod y gêm, ond rwy'n broffesiynol iawn felly'r Rebels oedd fy ffocws. Ond mi roedd hi'n deimlad bach yn rhyfedd i fod ar 'yr ochr arall'.
Tra ro'n i gyda'r Rebels daeth Cymro arall, Gareth Delve i chwarae yma. Odd e mor braf i weithio gyda Delvey! Y tro cyntaf nes i gwrdd ag e, roedd e'n teimlo fel ein bod wedi nabod ein gilydd ers ache. Roedd e'n braf clywed Cymro o gwmpas y lle, rhywun i 'neud yn siŵr mod i'n cadw fy acen!
Beth ydi'r gwahaniaethau mwyaf rhwng paratoi tîm rygbi'r Undeb a thîm Aussie Rules?
Mae 'na gymaint o wahaniaeth, gan fod lot mwy o baratoi ar gyfer gemau'r AFL. I ddechre, mae'r gemau yn para'n hirach 'na gemau rygbi. Mae cymaint o aelodau staff tu ôl i'r llenni gyda timau AFL a rwy' wedi sylwi bod mwy o drefn i'w gymharu â rygbi.
Mae'r adrenalin cyn y gemau yn weddol debyg yn y ddwy gamp, ond yn bendant mae 'na gymaint mwy o ragymadrodd yn digwydd cyn gemau AFL achos bos shwd gyment o arian o fewn y gêm.
Mae cefnogwyr timau AFL yn llenwi stadiwm gyda dros 90 mil o bobol yn y dorf ar gyfer nifer fawr o'r gemau, mwy 'na sy'n llenwi Stadiwm y Mileniwm. Mae'n wallgo'!
Disgrifia dy ddiwrnod arferol
Mi fydda i'n cyfarfod efo'r tîm meddygol i drafod pa chwaraewyr sydd angen sylw oherwydd anafiadau neu niggles y bore hwnnw. Ar ôl y cyfarfod, mae'r ffisiotherapydd yn rhoi gwybod i mi pa driniaeth sydd ei hangen ar bob chwaraewr, ac mae'n rhaid i fi drefnu amserlen i 45 o chwaraewyr! Mae gen i dîm o masseurs dwi'n eu rheoli a dau cadét dwi'n eu hyfforddi o'r Brifysgol leol.
Rwy'n rhannu unrhyw wybodaeth berthnasol neu rhywbeth dwi'n ei ddarganfod yn ystod y trinaiethau gyda'r tîm er mwyn gwneud yn siŵr fod y bois yn iach ar gyfer y penwythnos.
Beth yw dy obeithion i'r dyfodol?
Am nawr rwyf yn hynod o hapus ble ydw i. Dwi erioed 'di bod yn rhan o dîm mor anhygoel â'r Western Bulldogs, mae e fel un teulu mawr yma.
Rwy'n gallu bod yn fi fy hun yma a dod â bach o fy sbarc Cymreig i'r clwb.
I feddwl fy mod i wedi teithio i Awstralia gyda bag 20kg a dim syniad o beth oedd yn fy nisgwyl! Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl brofiadau a'r cyfleusterau sydd yma. Felly pwy a ŵyr… rwy'n byw bywyd gyda gwên ar fy ngwyneb ac yn joio pob munud.