Cynllun i sefydlu ysgol Gymraeg ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Llanfair Caereinion
Disgrifiad o’r llun,

Baner yn Llanfair Caereinion yn gwrthwynebu newid y drefn bresennol

Mae Cyngor Powys wedi cymeradwyo penderfyniad i lunio achos busnes dros sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir.

Mae cynghorwyr wedi gofyn i swyddogion lunio cynllun erbyn Mawrth 2016.

Bydd y cabinet wedyn yn penderfynu a yw'n ddymunol sefydlu ysgol uwchradd o'r fath yng ngogledd y sir.

Os ydyn nhw'n penderfynu o blaid, hon fyddai'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn y sir.

Byddai ysgol Categori 2A yn yr ardal a hyn yn golygu y byddai o leia 80% o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Chwech o ysgolion

Ar hyn o bryd mae addysg Gymraeg ar gael mewn chwech o ysgolion dwy ffrwd yn y sir.

Mae Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi ysgrifennu at aelodau'r cabinet yn galw ar yr aelodau i fabwysiadu'r egwyddor mai ysgolion Cymraeg penodedig yw'r model gorau.

Ond mae 'na gefnogwyr yn dweud bod y patrwm ysgolion dwy ffrwd yn adlewyrchu natur ddwyieithog y sir yn well.

Cyd-destun trafodaeth Cabinet Powys dydd Mawrth oedd yr angen i arbed arian a'r gostyngiad yn nifer y disgyblion.

Mae adroddiad ar addysg uwchradd ym Mhowys wedi dweud y dylai'r cyngor gau o leiaf dair o'r 12 ysgol uwchradd.