'Croen gŵydd' wrth ganfod 15,000 o geiniogau Rhufeinig

Daeth David Moss (canol) o hyd i ddau botyn clai mewn cae yng ngogledd Cymru oedd yn cynnwys miloedd o ddarnau arian Rhufeinig, tra'n chwilio am fetel gyda'i gyfaill Ian Nicholson (chwith)
- Cyhoeddwyd
Mae datguddiwr metel wedi darganfod hyd at 15,000 o ddarnau arian Rhufeinig - o bosib y casgliad mwyaf i ddod i'r fei yng Nghymru erioed.
Dywed David Moss, 36, o Sir Gaer, ei fod "â chroen gŵydd" a methu â chredu'r hyn iddo ddarganfod ar ôl datgladdu dau bot clai yng ngogledd Cymru.
Ag yntau'n ofni i'r celc gael ei ddwyn, fe gysgodd gyda'r ceiniogau yn ei gar am dridiau cyn mynd â nhw at arbenigwyr.
Mae'r casgliad bellach yn Amgueddfa Cymru Caerdydd ar gyfer asesiad ond ym marn un arbenigwr mae'n debygol taw dyma fydd y darganfyddiad mwyaf erioed yng Nghymru.
'Enfys funudau cyn cael signal'
Dyw Mr Moss ddim eisiau cadarnhau union leoliad y darganfyddiad, gan ei ddisgrifio fel ardal "heb ei chyffwrdd fwy neu lai" yn y gogledd.
"'Dach chi'n sôn am gyfnod y derwyddon a'r Llychlynwyr hyd at gyfnod y Rhufeiniaid," meddai.
Yn y 10 mlynedd ers iddo ddechrau chwilio am fetel gyda synhwyrydd mae wedi dod o hyd i oddeutu 2,700 o ddarnau arian Rhufeinig.
Roedd hynny cyn y darganfyddiad mawr - "rhwng 10,000 a 15,000" - yn y gogledd ym mis Awst, gyda'i gyfaill Ian Nicholson.
Dywedodd fod "enfys wedi ymddangos" funudau cyn i'r synhwyrydd ganfod signal.

Dywedodd David Moss nad oedd yn gallu credu'r hyn a ddaeth o hyd iddo mewn cae yng ngogledd Cymru
Fe dreuliodd y ddau ffrind chwe awr a hanner yn datgladdu'r darnau arian.
Cysylltodd Mr Moss â pherchennog y tir a roddodd flwch plastig iddo i gadw'r casgliad.
Aeth adref i Gaer, gan "ofni colli golwg ohono", ac wedi sawl noson ddigwsg yn cysgu gyda'r celc yn ei gar fe yrrodd i Gaerdydd a rhoi'r arian i arbenigwyr yr amgueddfa.
Asesiad yn 2026
Mae cadeirydd Cymdeithas Niwmismateg De Cymru a Sir Fynwy - mudiad sy'n arbenigo mewn darnau arian hanesyddol - yn credu gallai hwn fod y casgliad mwyaf erioed yng Nghymru.
Un posibilrwydd, medd Anthony Halse, yw bod un, neu sawl, aelod o'r fyddin Rufeinig wedi claddu'r ceiniogau i'w cadw'n ddiogel.
Fe fydd Amgueddfa Cymru, meddai, yn ceisio cadarnhau pa bryd y cafodd y ceiniogau eu claddu ac yn eu glanhau.

Fe roddodd perchennog y tir focs plastig i'r darganfyddwyr er mwyn cludo'r casgliad o'r safle
"Gan ei fod yn gasgliad mor fawr, byddan nhw'n gwneud cais i'r Amgueddfa Brydeinig i'w cadw," meddai.
"Yna fyddan nhw'n mynd i'r bwrdd ac yn gwneud cynnig i'r person wnaeth ei ddarganfod.
"Fe fydd e'n cael hanner yr arian a'r perchennog tir yn cael yr hanner arall."
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru Caerdydd fod disgwyl i'r asesiad gael ei gwblhau yn ystod 2026.
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021
Mae sawl celc wedi eu darganfod dros y blynyddoedd, wedi eu claddu'n fwriadol fel arfer a'u gadael - fel rhodd i'r duwiau, mewn rhai achosion, neu yn sgil cyfnodau cythryblus.
Dywed Amgueddfa Cymru Caerdydd taw'r celf mwyaf y maen nhw'n ymwybodol ohono yng Nghymru oedd casgliad o 10,000 o ddarnau arian ger Cas-gwent yn y 1990au.
Daeth preswylydd o hyd i bron 6,000 o ddarnau arian wedi eu claddu mewn dau bot mewn cae yn ardal Sili, Bro Morgannwg yn 2008.