Trwy fy llygaid i: Medi
- Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn fis prysur gyda'r camera i Sioned a Nia
Ffotograffwyr gwadd mis Medi Cymru Fyw oedd Sioned Birchall a Nia Davies. Mae'r ddwy ffrind yn rhedeg cwmni ffotograffiaeth Sioned a Nia yng Nghaerdydd. Fel y gwelwch chi maen nhw hefyd wedi teithio yn helaeth tu hwnt i'r brifddinas yn ystod y mis:

"Mae 'na deimlad hydrefol i'r llun hwn o adfeilion mwynglawdd Cefn Coch uwchben Ganllwyd."

"Mae llefydd fel y garej yma yn Llanrug yn diflannu o'r tirlun. Mae'n awgrymog iawn o hanes a chymeriadau'r ardal!"

"Mae ein gwaith yn rhoi cyfle i ni weld pethau tlws ac anarferol - dyma olygfa o dipi mawr yn y gorllewin gwyllt!"

"Rydyn ni wrth ein boddau gyda blociau o fflatiau. Does dim llawer o'r math yma o flociau yng Nghaerdydd. Mae fflatiau Lystep yn Gabalfa yn drawiadol ac yn mynnu eich sylw."

"Dyma lun dynnon ni yn ffair Coney Beach ym Mhorthcawl."

"Rydyn ni'n dwy yn mwynhau teithio, a does dim angen teithio'n bell i dynnu llun chwaith, mae patrymau difyr i'w gweld ar y ffordd rhwng llefydd. Dyma lun dynnon ni wrth ddal y tiwb yn Llundain."

"Parc Grangemmor yng Nghaerdydd. Dyma'r olygfa wrth ddringo'r bryn. Hynod drawiadol ond cwbl annisgwyl."

"Ry'n ni bob amser yn ceisio dod o hyd i bersbectif gwahanol ar olygfa gyfarwydd. Trwy'r ffens mi welwch chi Fae Caerdydd."

"Merlen ar dwynni Niwbwrch, Ynys Môn."

"Roedd drysau'r capel ym Mynwent Cathays ar agor am ddiwrnod yn unig ym mis Medi. Mae yna grŵp yn ceisio codi arian i'w achub rhag iddo fynd â'i ben iddo."

"Twneli La Tabacalera yw rhain o dan hen ffatri dybaco ym Madrid. Mae'r adeilad wedi ei feddiannu gan gymuned o artistiaid ac yn symbol amlwg o'r mudiad sgwatio - okupa con k."

"Mis Medi yw mis ffarwelio unwaith eto â Mali. Mae'r fyfyrwraig ar fin dechrau ar ei thrydedd flwyddyn yn y coleg!"

"Siambr gladdu neolithig Llwyneliddon, Bro Morgannwg ar fore 'Cyhydnos yr Hydref'. Mae'r llecyn hynafol hwn bum munud o brysurdeb Croes Cwrlwys yng Nghaerdydd."